Dirwyo capten llong am lywio dan ddylanwad alcohol
- Cyhoeddwyd

Cafodd capten llong o Sir Benfro ddirwy o £650 a gorchymyn i dalu costau o £497 am lywio ei gwch tra dan ddylanwad alcohol.
Plediodd David Hughes o Arberth yn euog i lywio ei gwch yn ardal porthladd Aberdaugleddau tra'n feddw.
Clywodd Ynadon Hwlffordd fod Hughes wedi bod yn hwylio'r gwch pŵer 24 troedfedd o hyd yng nghwmni ffrindiau ac un plentyn.
Ar ôl yr achos dywedodd harbwr feistr y porthladd Bill Hirst: "Mae hwn yn achos i atgoffa pawb sy'n defnyddio'r dyfroedd i fod yn gyfrifol.
"Mae'n rhaid i unrhyw un sydd dan ddylanwad alcohol ddeall y perygl y maen nhw'n gallu achosi i nhw eu hunain ac i eraill."