Solskjær yn 'debygol' o adael Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Solskjær yn cyfarfod â swyddogion y clwb er mwyn trafod ei ddyfodol
Dywed adran chwaraeon BBC Cymru fod rheolwr Caerdydd Ole Gunnar Solskjær yn cwrdd â swyddogion y clwb er mwyn trafod ei ddyfodol.
Mae BBC Cymru yn deall bod y rheolwr yn debygol o adael ei swydd ddydd Mercher.
Mae'r rheolwr dan bwysau ar ôl i Gaerdydd golli dwy gêm gartref yn olynol, a dydyn nhw heb ennill mewn pedwar gêm.
Fe gafodd Solskjær ei benodi yn rheolwr ym mis Ionawr ar ôl i'r perchennog ddiswyddo Malky Mackay.
Nos Fawrth fe gollodd y clwb i Middlesbrough, a hynny ar ôl iddynt golli i Norwich yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Maen nhw yn safle 17 allan o 24 yn y Bencampwriaeth.