Cwest: Rhew yn gyfrifol am ddamwain awyren
- Cyhoeddwyd

Clywodd cwest mai rhew yn fwy na thebyg oedd yn gyfrifol am farwolaeth teithiwr awyren ysgafn yng Nghaernarfon.
Bu farw Iain Nuttall, 37 oed o Blackburn, ar ôl i awyren Piper Cherokee golli pŵer wrth geisio glanio ar faes awyr Caernarfon.
Tad Mr Nuttall, John, oedd yn llywio'r awyren pan darodd yn erbyn coed, ac yna troi ben i waered.
Fe gafodd mab pump oed Iain Nuttal, Daniel, anafiadau difrifol yn y ddamwain, a felly hefyd John Nuttall.
Fe wnaeth y crwner, Dewi Pritchard-Jones, gofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol ar Mr Nuttall, wnaeth ddioddef anafiadau difrifol i'w ben.
Cyflenwad petrol
Digwyddodd y ddamwain fis Mai'r llynedd wrth i'r awyren deithio o Blackpool i Gaernarfon.
Dywedodd Mr Pritchard-Jones: "Prif achos y ddamwain oedd bod y carbwradur wedi rhewi, a methiant y peilot i sylweddoli hynny a'r ffaith fod angen twymo'r carbwradur."
Ychwanegodd nad oedd y rhew wedi atal yr injan yn gyfan gwbl, ond ei fod wedi lleihau'r cyflenwad petrol oedd yn ei gyrraedd.
Dywedodd ymchwiliad swyddogol i'r ddamwain: "Yn dilyn y ddamwain doedd y peilot ddim yn cofio pryd na am ba hyd yr oedd wedi ceisio gwresogi'r carbwradur."
Yn ôl yr adroddiad roedd y switsh twymo carbwradur ar y safle 'oer' pan ddaeth ymchwilwyr o hyd i'r injan.