Denu gohebwyr y dyfodol i bapurau bro Sir Gâr
- Cyhoeddwyd

Gyda chloch yr ysgol yn canu am 3:25 y prynhawn, byddech chi'n disgwyl i'r plant heidio tuag at y drysau a dal y bws am adref.
A dweud y gwir, dyna'n gwmws wnaeth rhan fwyaf o ddisgyblion Ysgol Bro Myrddin nos Fawrth, heblaw am tua hanner dwsin wnaeth aros ar ôl i gymryd rhan mewn gweithdy papur bro.
Yn rhan o brosiect GwirVol, sy'n ceisio annog pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed i wirfoddoli gyda' papur bro, bydd y disgyblion s yn cael eu hyfforddi am 10 wythnos cyn gwirfoddoli gyda phapur bro'r Cwlwm (Caerfyrddin) am flwyddyn.
Yn ôl Dewi Snelson, prif swyddog y fenter, mae'n bwysig i ddyfodol y Gymraeg bod mwy o bobl ifanc yn cyfrannu i'w papurau bro lleol.
"Nathon ni wneud tipyn o waith ymchwil i'r bobl oedd yn cyfrannu i'r papurau bro yn ardal y fenter, a rhai oedd ar y pwyllgorau, a gweld ella bod 'na duedd yn rhai ohonyn nhw bod y to hŷn yn cyfrannu fwy iddo fo, a bod isho trio dod a'r criw iau i mewn iddyn nhw achos bod ni'n gweld o'n beth pwysig iawn ar gyfer dyfodol y Gymraeg o fewn y sir."
Datblygu sgiliau newyddiadurol
Nos Fawrth oedd noson gyntaf y gweithdy i griw Bro Myrddin, ac i ddechrau roedden nhw'n edrych ar ffyrdd o wella eu papur bro leol, sef Cwlwm, papur bro Caerfyrddin.
"Ma'r clawr eitha' deniadol," meddai Elen Fflur, "ond falle does dim digon o liw tu fewn".
Ond beth 'nath ddenu nhw i'r prosiect, i dreulio eu hamser sbâr yn yr ysgol, yn hytrach nag adref?
"Dwi 'di dod 'ma heno er mwyn datblygu sgiliau newyddiadurol" medd Elen.
"Sai'n credu bod digon o bobl ifanc yn cyfrannu i'r papurau bro 'ma."
Gwella ei sgiliau cyfathrebu mae Marged Smith am wneud: "Dwi eisiau gweithio ar sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer y byd gwaith pan fyddai'n henach.
'Gwaed ifanc'
"Fi'n darllen Cwlwm a fi'n sylweddoli sdim llawer o ysgrifennu gan yr ifanc i gael ynddo fe, felly bydde fe'n neis gallu gweld mwy."
Yn ôl Alaw Davies o Fenter Iaith Gorllewin Sir Gâr, mae'n bwysig bod y bobl ifanc yn cael cyfle i gyfrannu.
"Yr un math o bobol sy'n dueddol o ysgrifennu mewn i'r papurau bro, felly fydd e'n neis cael gwaed ifanc."
Mae papurau bro ardal Sir Gâr yn argraffu 900 o gopïau ar gyfartaledd, a'r neges ganddyn nhw yw bod angen i fwy o bobl ifanc gyfrannu.
Gyda naw wythnos o hyfforddiant a'r ôl, a blwyddyn o gyfrannu i'r papur bro leol, tybed, a'i rhain fydd gohebwyr y dyfodol?
Straeon perthnasol
- 5 Awst 2013
- 8 Mai 2013
- 4 Awst 2012