Miliynau o bobl yr Alban yn pleidleisio
- Published
Mae miliynau wedi pleidleisio yn Refferendwm yr Alban wedi i 4,285,323, 97% o'r etholwyr, gofrestru i bleidleisio.
Roedd 2,608 o orsafoedd pleidleisio ar agor o 07:00 i 22:00 ddydd Iau ac mae disgwyl canlyniad terfynol yn gynnar fore Gwener.
Eisoes mae 789,024 o bobl wedi bwrw pleidlais bost.
Yn ystod yr ymgyrchu mae rhai wedi ceisio darogan beth fydd effaith y refferendwm ar Gymru, beth bynnag yw'r canlyniad.
Bydd y pleidleisiau yn cael eu cyfri drwy'r nos gyda'r canlyniad terfynol yn cael ei gyhoeddi yng Nghaeredin wedi canlyniadau 32 o awdurdodau lleol.
Yn ôl corff Etholiadau'r Alban, amser mwyaf tebygol y cyhoeddiad terfynol yw rhwng 06:30 a 07:30 fore Gwener.
Mae hynny wedi ei seilio ar amseroedd cyhoeddi canlyniadau'r Alban ar gyfer Etholiad San Steffan (2010) ac Etholiad 2011 Senedd yr Alban.
Ond mae'n bosib y bydd y canlyniad terfynol yn amlwg cyn hynny.
Mae disgwyl i ran fwyaf y canlyniadau lleol gael eu cyhoeddi rhwng 03:00 a 06:00.
Gallwch ddilyn llif byw arbennig drwy gydol y nos ar wefan Cymru Fyw a bydd yr holl ymateb ddydd Gwener.
Bydd rhaglen Refferendwm yr Alban yn cychwyn ar Radio Cymru am 22:30 a Refferendwm yr Alban ar S4C yn cychwyn yr un pryd.