Wcráin 1-0 Cymru
- Cyhoeddwyd

Jess Fishlock capten Cymru
Mae gobeithion tîm merched Cymru o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar ben ar ôl colli 1-0 yn Wcráin yn Grŵp 6.
Roedd yn rhaid i Gymru ennill yn Lviv, er mwyn cael unrhyw obaith o gyrraedd y gemau ailgyfle.
Cymru oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf, gyda Sarah Wiltshire yn dod yn agos.
Ond yna ar ôl 61 munud fe darodd Tetyana Romanenko yn dilyn croesiad Lyudmyla Pekur.
Mae'n debyg mai hon oedd gêm olaf Jarmo Matikainen yng ngofal Merched Cymru.