Esgobion benywaidd: Cyhoeddi canllawiau
- Cyhoeddwyd

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi amlinellu'r canllawiau sy'n egluro sut y bydd merched yn cael eu penodi'n esgobion.
Daw hyn flwyddyn wedi i'r Eglwys gefnogi egwyddor y syniad.
Bu corff llywodraethol yr Eglwys yn cwrdd yn Llambed ddydd Mercher.
Yn ôl y canllawiau fe fydd unrhyw un sy'n gwrthwynebu cael ei ordeinio gan fenyw yn cael yr hawl i wneud cais ysgrifenedig yn gofyn i ddyn eu hordeinio.
Dywedodd Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, y bydd gan bobl sy'n gwrthwynebu'r syniad o ordeinio merched hawl i barhau'n rhan o'r Eglwys yng Nghymru.
Canllawiau newydd
Prif nodweddion y canllawiau newydd yw:
- Os daw merch yn Esgob ... cydnabyddir yn ddiamod a diymatal ei hawdurdod fel Esgob cadeiriol.
- Ni fydd disgwyl i aelodau unigol o'r Eglwys yng Nghymru sydd, ar sail cydwybod, yn methu â derbyn gweinidogaeth sacramentaidd Esgob cadeiriol sy'n ferch, wneud hynny yn groes i'w cydwybod, ac fe wneir darpariaeth arall ar eu cyfer.
- Bydd yr Esgobion cadeiriol yn trefnu bod i'r cyfryw aelodau yn eu hesgobaethau bob darpariaeth resymol at weinidogaeth esgobol sacramentaidd briodol arall ar achlysuron pan fydd angen hynny, yn dilyn cais ysgrifenedig oddi wrth yr unigolion dan sylw gyda chefnogaeth eu hoffeiriad plwyf.
- Ni fydd yn rhaid i unrhyw Esgob ddwyn achos yn erbyn unrhyw aelod o'r Eglwys yng Nghymru am fod yr aelod hwnnw'n anghydweld, ar sail cydwybod, â darpariaethau'r Canonau i alluogi Ordeinio Merched yn Esgobion neu'n Offeiriaid.
Fe wnaeth 44 o leygwyr ac ordinandiaid o bob rhan o Gymru fynychu'r cyfarfod deuddydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.
Dywed yr Eglwys eu bod wedi oedi am 12 mis cyn bwrw 'mlaen gyda'r rheolau newydd, a hynny er mwyn llunio cod ymddygiad.
Ar y pryd dywedodd arweinwyr y byddai'r cyfnod hefyd yn rhoi cyfle i roi cymorth a gofal bugeiliol i'r rhai sy'n parhau i wrthwynebu cysegru merched yn esgobion.
Pan gafodd y rheolau newydd eu mabwysiadau yn 2013 fe wnaeth Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, alw'r diwrnod yn "un hanesyddol i'r Eglwys yng Nghymru."
Yn ystod y cyfarfod yn Llanbedr Pont Steffan, fe fydd y corff llywodraethol hefyd yn trafod y sefyllfa yn Gaza, a rhoi gofal gweinidogol i bobl gydag anghenion ychwanegol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2014
- Cyhoeddwyd12 Medi 2013