Mr Bulkeley o'r Brynddu: Plethu drama, hanes a gwyddoniaeth
- Cyhoeddwyd

Opera sebon o fywyd oedd gan William Bulkeley, Ysgwier o Ynys Môn yn ystod y 18fed ganrif - mi briododd ei ferch â môr-leidr, bu farw ei fab o alcoholiaeth, cafodd ei fam ei lladd gan ysgol yn syrthio ar ei phen cyn cael ei sathru gan wartheg!
Rwan mae ei ddyddiaduron yn dod yn fyw mewn drama ddwyieithog newydd - Mr Bulkeleyo'r Brynddu - yn ei hen gartre' ar stad Brynddu yn Llanfechell, ger safle'r Wylfa - ble mae un o ddisgynyddion y sgweier yn byw erbyn hyn.
Roedd William Bulkeley yn fyw rhwng 1691-1760 ac mae ei ddyddiaduron yn rhoi darlun o fywyd y cyfnod - gan gynnwys hanes ei deithiau i Iwerddon, ynghyd â ffeiriau, ymladd ceiliogod, a sgandalau'r llys ym Miwmares.
Mi gafodd Cymru Fyw sgwrs efo'r actor Wyn Bowen Harries am ail greu hanes y sgweier lliwgar:
Pam dewis gwneud drama fel hon?
"Yn ddiweddar mi nes i astudio cwrs MA mewn Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy ym Mhrifysgol Bangor - gradd mewn Biocemeg oedd gen i beth bynnag - felly mae gen i ddiddordeb amlwg mewn gwyddoniaeth a'r amgylchedd, a phethau fel 'na.
"Y naturiaethwr Duncan Brown ddaeth ata' i a gofyn oedd gen i ddiddordeb mewn gwneud rhywbeth am y dyddiaduron - nes i edrych arnyn nhw a gweld bod nhw'n andros o stori ddiddorol. Ma' rywun wedi'u sganio nhw erbyn hyn - ac mae'r transgript yn llawer haws i'w ddeall nag ysgrifen William Bulkeley! Aeth petha' fel pelen eira wedyn, gan arwain Duncan, finna' a Stephen Rees at sefydlu Cwmni Pendraw.
"Duncan sy' wedi bod yn benna' gyfrifol am gael yr arian ar gyfer y prosiect - mae 'na nawdd gan Gyngor Môn, Cynllun Noson Allan, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymdeithas Edward Llwyd/Llen Natur, Cronfa Sosioeconomaidd Magnox a Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru."
Mae'n brosiect anarferol - oes 'na heriau wedi bod?
"Ma' hi 'di bod yn her trio dysgu sut i wneud y math yma o beth fy hun - do'n i 'rioed 'di cael y profiad o gael arian, rhedeg cwmni - mae o 'di bod yn learning curve go fawr i mi - trefnu taith ac ati. Ond 'dwi 'di ffeindio fo'n andros o ddiddorol. Mae 'na lot o waith gwirfoddol, wrth gwrs, sy'n cymryd lot o amser. Ond 'does 'na ddim cymaint o waith bellach i actorion yng Nghymru, felly o'n i'n teimlo 'mod i isho gwneud rhywbeth."
Sut brofiad all y gynulleidfa ei ddisgwyl?
"Cynhyrchiad awyr agored fydd o dros y penwythnos - rhywbeth hollol wahanol, blas o be' fydd yn y ddrama lawn. Mi fyddwn ni'n dechrau o flaen y tŷ ym mhentre' Llanfechell - tŷ hynafol. Mae'r perchennog presennol wedi bod yn hynod groesawgar a diddordeb mawr ganddo yn William Bulkeley a'i hanes. Wedyn mi fyddwn ni'n symud i'r ardd ac mi fydd 'na anterliwt yn fanno. Wedyn mi fydd y cerddorion Stephen Rees a Huw Jones yn dysgu cân i bawb. Ar ôl hynny, mi fyddwn ni'n cerdded ar draws y cae tuag at yr eglwys, a thu mewn i fanno fydd gweddill y ddrama.
"Nid y ddrama gyflawn fyddwn ni'n gwneud ddydd Sadwrn - 'da ni wedi gorfod torri lawr am nad oeddan ni'n siŵr faint o amser fydda' hi'n cymryd i bawb gerdded o un lle i'r llall! Ond mi fydd 'na flas go dda ohoni. Wedyn mi fydd y Consortiwm Newid Hinsawdd yn gwneud cyflwyniad ar wyddoniaeth y tywydd, a phwysigrwydd astudiaeth o ddyddiaduron fel rhai William Bulkeley, oedd yn nodi'r tywydd bron bob dydd wrth 'sgwennu.
"Mi fydda' i hefyd yn rhoi sgwrs yn Galeri Caernarfon ddydd Mawrth, 23 Medi, am 14:00 - yn rhoi syniad o'r ddrama, hanes William Bulkeley ac ati."
A beth am y daith yn y flwyddyn newydd?
"Ia, hwnnw fydd y prif gyfnod ymarfer - mi fydd 'na sioe lawn bryd hynny, hefo gwisgoedd, set, goleuadau ac yn y blaen. Mi fyddan ni'n teithio am dair wythnos o 27 Ionawr i 14 Chwefror. 'Da ni'n barod wedi trefnu tua 13 o berfformiadau yn y gogledd, ac mae 'na le i ryw dri neu bedwar perfformiad arall. Mae'n argoeli'n dda iawn - ma' pobl yn cymryd diddordeb."
Newid hinsawdd
Ond nid dim ond stori dda 'mohoni.
Mae'r gwaith hefyd yn rhoi darlun unigryw o hinsawdd y cyfnod, gyda Mr Bulkeley wedi cofnodi'r tywydd dyddiol am dros 30 o flynyddoedd.
Felly mae gwyddonwyr hefyd wedi bod yn astudio'r dyddiaduron er mwyn dysgu am newid hinsawdd.
Yn ogystal â chyflwyniad ar gyfer ysgolion, bydd perfformiad i'r cyhoedd ddydd Sadwrn am 14:00, gan gychwyn ym Mrynddu ei hun, gyda thaith gerdded trwy gaeau i wylio perfformiad yn Eglwys Llanfechell, ac yna cyflwyniad yng Nghapel Libanus.
Perfformiadau byrach yw'r rhai hyn, i gynnig blas i bobl o'r hyn sydd i ddod. Bydd taith o'r ddrama lawn yn cael ei chynnal ddechrau'r flwyddyn nesa'.
Plethu drama, hanes a gwyddoniaeth
Cwmni Pendraw sy'n gyfrifol am y cynhyrchiad - cwmni gafodd ei sefydlu'n arbennig i geisio cyfuno profiadau theatrig hefo hanes a gwyddoniaeth.
Yn ogystal ag actio ynddi, Wyn Bowen Harries sydd wedi cynhyrchu a chyfarwyddo'r ddrama.
Yr actorion eraill ydy Rhodri Sion a Manon Wilkinson, ac mae'r cerddorion Stephen Rees a Huw Jones hefyd yn rhan o'r perfformiad.
'Hynod ddiddorol'
Einion Thomas, Archifydd Prifysgol Bangor, sy'n esbonio pam fod drama yn gyfrwng da i gyflwyno ffrwyth llafur y cynllun:
"Mae'r digwyddiadau theatrig yn fodd gwych i ddathlu penllanw project diddorol sydd yn rhoi'r dyddiaduron ar ffurf sydd yn hawdd i unrhyw un bori drwyddyn nhw.
"Maen nhw'n hynod ddiddorol, heb sôn am fod ymysg y dystiolaeth ddogfennol bwysicaf sydd ar gael i'r sawl a fyn astudio hanes bywyd ar Ynys Môn yn y 18fed Ganrif.
"Dwi'n falch o'r cydweithredu sydd wedi bod rhwng yr Archifau, Llên Natur, Cymdeithas Edward Llwyd a chwmni SueProof, sydd wedi rhoi'r dyddiaduron ar ffurf y gall bawb ei darllen."
Mae dyddiaduron William Bulkeley yn cael eu cadw yn Archif Prifysgol Bangor, a bellach wedi'u trawsgrifio ac ar gael i'w darllen a'u gweld ar-lein.