Solskjær wedi gadael Caerdydd
- Published
Mae clwb pêl-droed Caerdydd wedi cadarnhau fod Ole Gunnar Solskjaer wedi gadael y clwb.
Roedd y rheolwr dan bwysau ar ôl canlyniadau gwael a bu'n cynnal trafodaethau gyda swyddogion y clwb yn Llundain ddydd Mercher.
Fe wnaeth Caerdydd ddisgyn i'r 17eg safle ar ôl coli gartre 1-0 i Middlesbrough nos Fawrth.
Dyw Caerdydd ond wedi ennill naw o'r 30 gem ers i Solskjaer gymryd yr awenau.
Mae cyn reolwr Crystal Palace, y Cymro Tony Pulis a rheolwr Dundee, Paul Hartley wedi eu cysylltu efo'r swydd, ond dywedodd Dundee wrth y BBC eu bod am gadarnhau fod gan "y rheolwr Paul Hartley gynlluniau hir dymor gyda chlwb Dundee.
"Mae Paul wedi ymroi i'r clwb ac mae'n edrych ymlaen ar gyfer y gêm ddarbi yr wythnos hon."
Fe gafodd Solskjær ei benodi yn rheolwr ym mis Ionawr ar ôl i'r perchennog Vincent Tan ddiswyddo Malky Mackay.
Dywedodd Mr Tan: "Yn anffodus dyw ein canlyniadau ddim yn caniatáu i Ole barhau a'i rôl fel rheolwr.
"Felly fe wnaeth Ole benderfynu ei fod am gamu o'r neilltu, ac rwyf wedi derbyn hyn."
"Rwyf wedi canfod Ole i fod yn ddyn gonest ac yn weithiwr caled, ond yn anffodus doedd y canlyniadau ddim o'i blaid."
Dywedodd Solskjaer: "Rwyf am ddiolch i Vincent am roi'r cyfle i mi reoli Caerdydd.
"Rwy'n dymuno'r gorau iddo yn ei nod o wneud y clwb yn un llwyddiannus.
"Ond, roedd ein hathroniaeth ynglŷn â sut i reoli'r clwb yn wahanol, ac fe wnaeth hynny wneud i mi benderfynu mae'r peth gorau i wneud oedd camu i'r ochr, a chaniatáu i'r clwb symud yn ei flaen yn y cyfeiriad mae Vincent am ei weld."