Marw mewn ambiwlans: 'Aros am awr'
- Cyhoeddwyd

Mae teulu dynes fu farw pan oedd hi'n aros mewn ciw o ambiwlansys tu allan i Ysbyty Treforys yn Abertawe, yn dweud fod y system "wedi ei methu".
Roedd rhaid i Sonia Powell, oedd yn 73 oed, "aros am awr, o leiaf", medd y teulu. Y gred yw ei bod hi wedi dioddef trawiad ar y galon.
Yn ôl y gwasanaeth ambiwlans a'r bwrdd iechyd lleol - roedd hi wedi bod yno am oddeutu 30 i 40 munud.
Ond fe ddywedodd wyres Mrs Powell, Kim Thompson, fod meddyg "wedi cyrraedd bum munud" cyn iddi farw.
Daw honiadau Ms Thompson wrth i ymchwiliad ddechrau i'r amgylchiadau cyn marwolaeth ei nain brynhawn dydd Mercher.
Fe ddywedodd fod ei nain - o Banwen yng Nghwm Nedd - yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot yn wreiddiol, ac yn cael ei throsglwyddo i Dreforys gan fod ganddi hylif ar yr ysgyfaint, ac roedden nhw'n amau ei bod hi wedi cael trawiad ar y galon.
Roedd y teulu wedi cael gwybod y byddai Mrs Powell - oedd wedi bod yn yr ysbyty ers dechrau'r wythnos - yn cael ei throsglwyddo i uned y galon yn Ysbyty Treforys.
'Diffyg cyfathrebu'
Ond, meddai Ms Thompson, wedi i'r ambiwlans gyrraedd Treforys, fe aeth y gyrrwr â nodiadau Mrs Powell i'r ysbyty, a'u dangos i feddyg - oedd yn teimlo'n rhwystredig ei bod hi wedi cael ei throsglwyddo yno.
Ar y pryd, roedd wyth neu naw o ambiwlansys yn ciwio yno gan nad oedd gwelyau ar gael, yn ôl Ms Thompson.
Fe ddywedodd fod y teulu'n bryderus am "y diffyg cyfathrebu rhwng yr ysbytai".
Er hyn, roedd ganddi ganmoliaeth i aelodau o staff yn Nhreforys.
Yn benodol, fe ddywedodd Ms Thompson fod y gyrrwr ambiwlans "yn ddi-fai", a bod y caplan yn Ysbyty Treforys wedi "gwneud popeth o fewn ei allu i ni".
Dywedodd Bwrdd Iechyd Abertawe a Bro Morgannwg eu bod yn ymwybodol o brofedigaeth teulu Mrs Powell a hefyd yn cynnig eu cydymdeimlad diffuant.
Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn adolygu pob agwedd ar yr hyn a ddigwyddodd ar hyn o bryd, ac mae Cymru Fyw ar ddeall eu bod yn trafod y mater gyda theulu Mrs Powell.
Cyrraedd am 15:04
Mae'r bwrdd hefyd wedi cadarnhau fod yr ambiwlans wedi gadael Ysbyty Castell Nedd {Port Talbot am 14:49 cyn cyrraedd yn Ysbyty Treforys am 15:04.
Mewn datganiad, dywedodd y bwrdd: "Dechreuodd y meddyg o'r adran achosion brys ei asesiad o'r claf yn yr ambiwlans am 15:07, ac arhosodd meddyg gyda Mrs Powell ar yr ambiwlans nes iddi farw am 15:40.
"Os bydd claf yn gwaethygu yn un o'n hysbytai cefnogol ac rydym o'r farn y gallai elwa o driniaeth sydd ar gael yn un o'n hysbytai mwy, yna byddwn yn trefnu i ambiwlans eu trosglwyddo ac ar ôl cyrraedd, bydd pob argyfwng meddygol yn cael eu hasesu gan feddyg yn yr Adran Achosion Brys er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y driniaeth briodol cyn cael eu trosglwyddo i wely.
"Roedd dydd Mercher yn ddiwrnod prysur i adrannau achosion brys ac mi waethygodd y prysurdeb yn Nhreforys yn ystod y dydd pan gyrhaeddodd 20 o ambiwlansys yr ysbyty o fewn cyfnod byr o amser.
"Ar un adeg roedd 12 o ambiwlansys gweithredol yn ciwio tu allan i'r adran, ond nid oedd cleifion ymhob un ohonynt."
Cynllun Galw Cynyddol
Oherwydd prysurdeb yn yr ysbyty, cafodd cynlluniau galw cynyddol eu gweithredu yn y bore ac roedd yr adran wedi ei "staffio'n dda" erbyn y prynhawn. meddai llefarydd ar ran y bwrdd.
Yn ôl ffigyrau swyddgol, dyw llai na 70% o gleifion sy'n cael eu cludo i Ysbyty Treforys gan ambiwlans, ddim yn cael eu trosglwyddo i ofal yr adran frys o fewn y targed o 15 munud.
Mae'r ffigyrau'n ymddangos yng nghofnodion y bwrdd iechyd ar gyfer mis Gorffennaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2014