Jacs yn Joio!

  • Cyhoeddwyd
Yn 2003 bu bron i Abertawe syrthio o'r gynghrair
Disgrifiad o’r llun,
Gorfoledd ar y Vetch yn 2003 ar ôl i Abertawe guro Hull i sicrhau eu lle yn y Gynghrair Bêl-droed

Roedd y dyfodol yn edrych yn ddu iawn i glwb pêl-droed Abertawe ar ddechrau Mai 2003. Pwy feddyliai y byddai'r Elyrch un flynedd a'r ddeg yn ddiweddarach yn hedfan yn uchel ymhlith goreuon y gamp?

Roedd y tîm o fewn un gêm i syrthio o'r Gynghrair Bêl-droed. Er iddyn nhw guro Hull yn y gêm dyngedfennol honno ar y Vetch, go brin y byddai'r Jacs mwyaf ffyddlon wedi darogan y byddai Abertawe, mewn llai na degawd, yn cyrraedd yr Uwch Gynghrair.

Ydi, mae hi'n stori ryfeddol. Testun da i ffilm efallai? A dyna'n union sydd wedi digwydd! Ar hyn o bryd mae ffilm ddogfen arbennig 'Jack to a King' yn cael ei dangos mewn sinemâu ar hyd a lled De Cymru.

Un sydd â rôl amlwg yn y stori yw'r cyn-ymosodwr poblogaidd Lee Trundle. Roedd o'n chwarae i'r clwb wrth iddyn nhw geisio codi o waelodion y Drydedd Adran.

Mi fuodd Cymru Fyw yn edrych yn ôl ar gyfnod anhygoel yn hanes Abertawe efo'r arwr o Lannau Mersi a Rhys Padarn, un o gefnogwyr pybyr y clwb ers dros ugain mlynedd.

Yn gynta' i gyd be oeddech chi'ch dau yn ei feddwl o'r ffilm 'Jack to a King'?

Lee: Nes i wirioneddol fwynhau'r ffilm. Yn amlwg mae'r ffilm yn dangos y clwb ar ei waethaf a sut llwyddodd y cyfarwyddwyr presennol a'r chwaraewyr i gael y clwb yn ôl ar ei draed. Mae'n stori wych, ac yn stori dwi'n falch o fod yn rhan ohoni, ac i'w gwylio ar y sgrîn fawr.

Rhys: Mae 'Jack to a King' yn wych! Nid yn unig o safbwynt cefnogwr Abertawe ond fel rhywun sy'n dwli ar ffilmiau dogfen hefyd. Stori underdog go iawn sy'n cael ei dweud mewn ffordd gyffrous ac emosiynol iawn. Roedd y golygfeydd o'r Vetch yn dod ag atgofion yn ôl i fi, ac roedd y darn am Lee yn atgof neis gan mai e oedd un o fy hoff chwaraewyr pêl-droed erioed.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Lee Trundle - Arwr i Rhys Padarn a nifer fawr o gefnogwyr yr Elyrch

Rhys, beth wyt ti'n gofio o'r dyddiau tywyll rheiny yn 2003?

Rhys: Roedd hi'n amser tywyll iawn ac i fod yn onest am amser do'n i ddim cweit yn sylweddoli pa mor wael oedd pethau oddi ar y cae. Pan ddechreues i gefnogi Abertawe roedd y clwb yn y Drydedd Adran a doedd pethau byth yn wych yn ariannol oddi ar y cae ond roeddet ti jyst yn derbyn taw dyna sut oedd pethau. Dim ond yn ystod cyfnod Tony Petty wnaeth pawb ddeffro ac ymladd dros y clwb.

Lee, mi wnes di ymuno efo Abertawe y tymor ar ôl iddyn nhw osgoi syrthio o'r Gynghrair. Sut ges di dy berswadio i symud i'r de?

Lee: Ro'n i wedi gweithio efo'r rheolwr Brian Flynn yn Wrecsam a mi wnaeth o fy mherswadio ei fod yn ceisio adeiladu tîm yn Abertawe fyddai yn ddigon da i esgyn trwy'r cynghreiriau unwaith eto. Felly, erbyn i mi gyrraedd, roedden nhw wedi dod dros eu problemau mwyaf, ac ro'n i'n awyddus i fynd allan ar y cae a chwarae'n dda ac i fwynhau, a chymryd unrhyw lwyddiant oedd yn dod o hynny. Felly, nes i osgoi'r amseroedd tywyll, ac ymuno pan oedd y clwb yn ffynnu unwaith eto.

Ond wnaethoch chi'ch dau 'rioed feddwl y byddai Abertawe yn mynd yr holl ffordd i'r Uwch Gynghrair mewn cyfnod mor fyr?

Lee: Petai rhywun wedi gofyn i fi fyddai Abertawe'n chwarae yn yr Uwch Gynghrair ac yn chwarae'n Ewrop... yn realistig fe fydden ni wedi dweud na! Nes i ddim rhagweld hynny'n digwydd mor gyflym. Ond wedi dweud hynny, roeddwn i'n gwybod bod y clwb yn awyddus i wneud yn dda felly doedd hi ddim yn syndod pan ddechreuon ni ddringo'r tablau.

Rhys: Wnes i erioed weld yr holl lwyddiant 'ma'n dod. Siwd alle ni pan mae dy dîm yn chwarae yn y Drydedd Adran o flaen llai na 5,000 o bobl ac yn arwyddo chwaraewyr o Uwch Gynghrair Cymru? Dyna fel oedd hi pan o'n i'n mynd i wylio'r Swans yn blentyn. Yr unig bryd dechreues i freuddwydio oedd pan gyrhaeddon ni'r Bencampwriaeth a chwarae peth o'r pêl-droed gorau ro'n i erioed wedi gweld gan dîm Abertawe.

Ffynhonnell y llun, YJB Films
Disgrifiad o’r llun,
Y Vetch, ble dechreuodd taith ryfeddol Abertawe i'r Uwch Gynghrair

Beth yw dy hoff atgof o chwarae i Abertawe, Lee?

Lee: Mae 'na sawl un, gan gynnwys ennill dyrchafiad, ond roedd sgorio gôl i ennill Tlws y Gynghrair Bêl-droed yn Stadiwm y Mileniwm o flaen 40,000 o ffans y Swans yn brofiad sy'n sefyll allan. Ond fel ffan fy hun roedd y diwrnod aethon ni i Wembley i wylio Abertawe yn curo Reading i ennill lle yn yr Uwch Gynghrair yn ddiwrnod mawr, ac yn un wna i fyth ei anghofio.

...a Rhys, beth yw dy hoff atgof di fel cefnogwr?

Rhys: Mae'r gêm yn erbyn Reading mae Lee yn sôn amdani hi, ennill Cwpan Capital One yn Wembley a'r gêm enwog yn erbyn Hull yn ddewisiadau amlwg, ond bydd y gemau yng Nghwpan yr FA yn erbyn West Ham nôl yn 1999 o hyd yn aros yn y cof. Roedd buddugoliaeth yn erbyn tîm oedd yn cynnwys chwaraewyr fel Frank Lampard, Ian Wright a John Hartson yn rhyw fath o gyfiawnhad dros fy mhenderfyniad i gefnogi tîm o'r Drydedd Adran yn hytrach na Man Utd a Liverpool fel llwyth o'n ffrindiau.

Disgrifiad o’r llun,
Abertawe yn dathlu ennill Cwpan Capital One yn erbyn Bradford yn 2013

Lee, nes di ddychwelyd i'r Liberty llynedd fel Llysgennad. Rwyt ti hefyd yn helpu i hyfforddi chwaraewyr ifanc y clwb. Mae'n amlwg bod y clwb yn agos iawn at dy galon.

Lee: Ro'n i ar fy ngorau yn Abertawe ac ydi mae'r clwb yn agos at fy nghalon. Nid yn unig y clwb pêl-droed, a'r hyn mae'r clwb wedi ei wneud i mi, ond pobl y ddinas - y ffordd maen nhw wedi fy nerbyn i a'r ffordd maen nhw yn fy nhrin. Dwi wrth fy modd yn byw yma ac mae gweithio fel llysgennad a hyfforddwr wedi rhoi'r cyfle i mi roi rhywbeth yn ôl i'r clwb sydd wedi gwneud gymaint i mi.

Pwrpas fy rôl fel llysgennad ydi bod yn gyswllt rhwng y cefnogwyr a'r chwaraewyr, ac i gael y chwaraewyr allan i'r gymuned, i gymysgu gyda'r cefnogwyr mewn digwyddiadau gwahanol. Dwi'n awyddus iawn i symud i'r byd hyfforddi yn y dyfodol, ond ar hyn o bryd dwi'n canolbwyntio ar fy ngwaith yn y gymuned a'r gwaith dwi'n ei wneud gydag Academi Abertawe, ac adeiladu ar hynny.

Ydych chi'ch dau wedi gweld bod yna fwy o ddidordeb mewn pêl droed yn yr ardal ers i'r tîm gyrraedd yr Uwch Gynghrair?

Lee: Yn bendant. Mae llawer yn dod i'n gweld ni'n chwarae erbyn hyn, nid dim ond cefnogwyr Abertawe, ond pobl sydd am weld rhai o dimau gorau'r byd yn chwarae yn Stadiwm Liberty. Dyna beth sydd angen ei wneud, i gael plant ifanc yr ardal i gymryd rhan, i deimlo elfen o berthyn i'r clwb, gan mai nhw yw cefnogwyr y dyfodol, a rhan o fy swydd i fel Llysgennad yw mynd i ysgolion Abertawe a'r Fro ac annog y diddordeb a dwi wir yn mwynhau gwneud hyn.

Rhys: Ydw heb os! Ma' crysau Abertawe i'w gweld ym mhob man yn y ddinas ac mae pawb eisiau siarad am bêl-droed. Ond nid dim ond yn Abertawe, o'n i yn San Francisco yn ddiweddar a dechreues i siarad gydag Americanwr oedd wedi dechrau dilyn y Swans! Mae Clwb Pêl-Droed Abertawe nawr yn rhyngwladol!

Ffynhonnell y llun, Rhys Padarn
Disgrifiad o’r llun,
Hunlun o'r Liberty: Rhys yn cadw cwmni i'w gyd-gefnogwyr, Jim a Pete.

Lee, rwyt ti'n nabod y rheolwr presennol Garry Monk yn bur dda â thithau wedi cyd-chwarae gydag e. Yw'r dyn iawn wrth y llyw?

Lee: Dwi'n meddwl ei fod yn wych, ac yn gam da gan y clwb i benodi Garry fel rheolwr. Gyda'r llwyddiant 'dyn ni wedi ei gael dros y tymhorau diwethaf, gallai wedi bod yn ddigon hawdd i benodi rheolwr profiadol, ond mae Abertawe'n awyddus i gadw'r hunaniaeth sydd wedi bod yn rhan fawr o'u llwyddiant hyd yma.

Dyw'r clwb ddim yn rywbeth dros dro i Garry, dyma lle mae'i galon e a bydd e wastad eisiau gwneud ei orau dros y clwb, a dyna beth sydd angen arnon ni ar hyn o bryd - ychydig o sefydlogrwydd gan nad ydyn ni wedi cael llawer o hynny dros y tymhorau diwethaf gyda'r rheolwyr blaenorol.

Mae'r bois wedi ei weld e fel chwaraewr, wedi gweld ei ymroddiad a'i ymrwymiad i'r clwb, a dwi'n credu bod hynny'n rhan o'r rheswm pam eu bod yn cymryd ato fel rheolwr.

Dewis da, Rhys...?

Rhys: I fod hollol onest, do'n i ddim yn hapus pan gafodd e'r swydd yn barhaol. O'n i'n teimlo taw Monk oedd y dewis rhwydd a dylai'r clwb wedi dangos ychydig mwy o uchelgais a dychymyg wrth benodi rheolwr newydd... ond ma fe wedi dechrau profi fi'n anghywir yn barod!

Ni 'di dechrau'r tymor yn wych ac roedd y gêm yn erbyn Man Utd a'r hanner cyntaf yn erbyn Chelsea wedi dangos fod e'n barod i gystadlu yn erbyn mawrion y gêm fel Van Gaal a Mourinho.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Mae Garry Monk wedi cael dechrau da i'w dymor llawn cyntaf fel rheolwr

Reit te, mae'n bryd i chi'ch dau roi'ch pennau ar y bloc! Sut dymor gaiff Abertawe eleni?

Lee: Dwi wedi gwylio'r sesiynau hyfforddi ar ddechrau'r tymor, wedi gweld y chwaraewyr sydd wedi ymuno â'r garfan, ac wedi gweld sut mae Garry'n paratoi'r sesiynau hyfforddi a sut mae'r chwaraewyr yn ymateb iddo fe. Dwi ddim am roi pwysau arno, ond dwi wedi dweud mod i'n teimlo mai hwn fydd ein tymor gorau ni eto yn yr Uwch Gynghrair.

Dwi'n edrych ymlaen at dymor disglair gydag Abertawe a gobeithio gallwn ni gael bach o lwyddiant ar hyd y ffordd. Er i ni golli ambell i enw mawr fel Michu a Chico Flores, 'dyn ni wedi ychwanegu chwaraewyr da fel Bafétimbi Gomis a Gylfi Sigurðsson. Dwi'n teimlo bod y garfan yn gryfach eleni nag oedd e llynedd.

Rhys: Wrth edrych ar y ffordd 'dyn ni wedi dechrau'r tymor a safon y timau ar yr un lefel â ni dwi ddim yn gweld pam na allen ni orffen yn y 10 uchaf eleni. Ma'r tîm cyntaf yn gwneud yn wych ond beth sy'n gyffrous yw bod gyda ni fainc sydd yn llawn o chwaraewyr sydd â'r gallu i newid gemau, rhwbeth sydd ddim wedi bod gyda ni dros y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae cefnogwyr yr Elyrch yn falch o weld yr asgellwr Gylfi Sigurðsson yn ei ôl yn y Liberty