Dim prawf gyrru ar gael yn Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Prawf gyrru

Mae gyrwyr yn Y Bala wedi dweud eu bod yn flin wedi i'r Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA) fethu darparu profion gyrru yn y Gymraeg.

Roedd pobl yn medru archebu prawf yn y Gymraeg ar wefan yr asiantaeth, ond ar ddiwrnod y prawf fe gawson nhw wybod y gallen nhw sefyll y prawf yn Saesneg yn unig, neu aros am chwe wythnos i gael prawf Cymraeg.

Yn ôl Robat Bryn Davies, nid oedd yn deall y gorchmynion gan yr arholwr yn iawn gan ei fod wedi arfer gyda gwersi gyrru Cymraeg.

"Roeddwn yn dipyn mwy nerfus gwneud y prawf yn Saesneg, roedd yn rhaid i mi ofyn i'r arholwr i ail-adrodd ei hun sawl gwaith, gan nad oeddwn yn ei ddeall." meddai.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gyrru llythyr i'r DVSA i gwyno, ac mae Comisiynydd y Gymraeg hefyd yn ystyried y sefyllfa.

Dywedodd y DVSA eu bod yn ymwybodol o'r broblem ac yn ceisio datrys y sefyllfa yn yr ardal.

'Annerbyniol'

Yn ôl Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith, fe ddaeth y mater i'w sylw ar ôl derbyn cwynion o'r ardal, a dywedodd:

"Mae hyn yn hollol annerbyniol ac yn mynd yn erbyn hawliau pobl.

"Mae gan y Gymraeg statws swyddogol a dyle fod pobl yn gallu cael gwasanaeth Cymraeg yn y Bala.

"Ry'n ni'n gwneud ymchwil i weld os oes modd herio hyn yn gyfreithiol, ac ry'n ni wedi cysylltu gyda'r Comisiynydd hefyd i'w hysbysu o'r ffaith."

Recriwtio

Pan ofynnodd y BBC am ymateb, fe gyhoeddodd y DVSA ddatganiad sy'n dweud:

"Rydym yn ystyried ein cyfrifoldebau o dan y Cynllun iaith Gymraeg o ddifri, ac rydym yn sicrhau bod profion ymarferol ar gael yn ein canolfannau prawf yng Nghymru os fydd cais am hynny.

"Rydym yn ymwybodol o'r mater dan sylw yn y Bala ac yn gweithio i ddatrys hyn.

"Rydym hefyd yn ceisio recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg fel arholwyr, yn benodol yng ngogledd Cymru. Byddwn yn annog unrhyw un sy'n rhugl yn y Gymraeg, sydd â diddordeb mewn gyrru a diogelwch y ffyrdd ac sydd wedi bod â thrwydded yrru lawn am y pedair blynedd diwethaf i ystyried ymgeisio.

"Byddwn yn cynnal digwyddiad recriwtio i siaradwyr Cymraeg yng nghanolfan brawf Bangor ar ddydd Mercher, 24 Medi."

Fe ddaeth yn amlwg bod arholwr sy'n siarad Cymraeg yn ardal y Bala wedi ymddeol ym mis Ionawr eleni, ac nad yw'r bwlch wedi ei lenwi.

Fe ddywed yr asiantaeth eu bod yn ceisio recriwtio pedwar arholwr newydd ym Mangor, Wrecsam a'r Rhyl.

Ar hyn o bryd mae 14 o'r 88 arholwr yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg.