Dechrau boddhaol i Donaldson
- Cyhoeddwyd

Mae Jamie Donaldson wedi cael dechrau boddhaol i Bencampwriaeth Golff Agored Cymru ar gwrs y Celtic Manor yng Nghasnewydd.
Fe allai ei rownd gyntaf fod wedi bod yn well fyth wedi iddo gael dwy bluen yn y tri thwll cyntaf, ond fe gollodd ergyd ar y pumed cyn cwblhau'r cwrs gyda'r safon i orffen gyda rownd o 70 - un yn well na'r safon.
Dyma ddechrau penwythnos mawr i'r golffiwr o Bontypridd gan y bydd yn cynrychioli Ewrop yng Nghwpan Ryder yn Gleneagles yr wythnos nesaf, a hynny am y tro cyntaf.
Roedd capten tîm Ewrop, Paul McGinley, wedi gofyn i'r trefnwyr osod cwrs yng Nghasnewydd i fod yn debyg i gwrs Gleneagles fel bod aelodau ei dîm yn cael ymarfer defnyddiol.
Doedd hynny'n ddim help i Lee Westwood orffennodd gyda rownd o 72 - bydd Thomas Bjorn a Stephen Gallacher yn dechrau yn nes ymlaen.
Ar y blaen ar hyn o bryd mae Nicolas Colsaerts o wlad Belg - un a gollodd ei le yn y tîm Cwpan Ryder ar ôl cystadlu yn yr un diwethaf yn Medinah.
Cafodd Colsaerts rownd o 66 - pump yn well na'r safon.