Gwasanaeth iechyd 'dan bwysau', medd Drakeford
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaeth iechyd yng Ngymru "dan bwysau" a dyw'r gwasanaeth ambiwlans "ddim ymhle 'dy ni am iddo fod", meddai Mark Drakeford wrth ACau.
Ond fe ddywedodd fod y gwasanaeth yn dangos "gwir wydnwch" ac yn ateb anghenion cleifion "ar raddfa enfawr".
Ddydd Mercher, fe alwodd y BMA am ymchwiliad annibynnol i'r GIG yng Nghymru.
Ar yr un diwrnod, bu farw dynes mewn ambiwlans y tu allan i Ysbyty Treforys yn Abertawe.
Roedd Sonia Powell wedi bod yn aros i gael ei throsglwyddo i'r ysbyty am oddeutu awr pan fu farw, yn ôl ei theulu.
Fe rybuddiodd cadeirydd BMA Cymru, Dr Phil Banfield fod y GIG yng Nghymru yn "beryg o fethu" heb weithredu, a hynny ar frys.
Yn ogystal, mae'r BMA am i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod yn gorff annibynnol.
Fe ddywedodd Mr Drakeford wrth bwyllgor iechyd y Cynulliad nad oedd o wedi gweld yr adroddiad, ond y byddai'n ei ddarllen dros y penwythnos cyn i ACau ei drafod yr wythnos nesa'.
"Mae'r GIG yng Nghymru, fel ymhob rhan arall o'r DU, dan bwysau," meddai.
"Mae'r galw'n cynyddu - mae'n gallu ni i ateb y galw drwy sicrhau adnoddau yn cael ei rwystro gan doriadau i'n cyllideb."
Ond fe fynodd bod y "darlun ehangach" yn dangos "gwasanaeth gwir wydn sy'n darparu ar gyfer anghenion pobl Cymru ar raddfa enfawr".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi 2014
- Cyhoeddwyd17 Medi 2014