Damwain yn Aberhonddu: tri yn yr ysbyty

Mae tri yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A40 ger Aberhonddu brynhawn Iau.

Aed â dyn yn ei bumdegau ag anafiadau difrifol i Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd mewn ambiwlans awyr ac aed â dau arall i Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni. Does dim manylion am eu hanafiadau nhw.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasnaeth Ambiwlans: "Roedd galwad am 15:00 i Lanhamlach a chyrhaeddodd dau ambiwlans ac ambiwlans awyr."

Cafodd dau eu torri'n rhydd o gerbyd ac roedd y ffordd ar gau am gyfnod.