Gorsafoedd pleidleisio wedi cau yn yr Alban
- Cyhoeddwyd
Mae'r gorsafoedd pleidleisio bellach wedi cau yn Refferendwm yr Alban ac mae'r cyfri wedi dechrau.
Mae 32 ardal wahanol lle bydd y cyfri yn digwydd ac mae disgwyl i'r cyntaf o'r rhain gyhoeddi'r canlyniadau cyntaf am oddeutu 02:00 fore Gwener.
Yn ôl corff Etholiadau'r Alban, amser mwyaf tebygol y cyhoeddiad terfynol yw rhwng 06:30 a 07:30 fore Gwener.
Mae hynny wedi ei seilio ar amseroedd cyhoeddi canlyniadau'r Alban ar gyfer Etholiad San Steffan yn 2010 ac Etholiad 2011 Senedd yr Alban.
Ond mae'n bosib y bydd y canlyniad terfynol yn amlwg cyn hynny.
Mae disgwyl i ran fwyaf y canlyniadau lleol gael eu cyhoeddi rhwng 03:00 a 06:00.
Fe wnaeth miliynau bleidleisio wedi i 4,285,323, 97% o'r etholwyr gofrestru, gyda 789,024 o bobl yn pleidleisio o flaen llaw drwy ddefnyddio'u pleidlais bost.
Yn ystod yr ymgyrchu mae rhai wedi ceisio darogan beth fydd effaith y refferendwm ar Gymru, beth bynnag yw'r canlyniad.
Gallwch ddilyn llif byw arbennig drwy gydol y nos ar wefan Cymru Fyw a bydd yr holl ymateb i'w gael fore dydd Gwener.
Mae rhaglen Refferendwm yr Alban yn dechrau ar Radio Cymru am 22:30 ac mae rhaglen arbennig wedi ei chyflwyno gan Dewi Llwyd a Bethan Rhys yn dechrau ar S4C yr un pryd.