Ystyried penodi rhywun annibynnol i benderfynu oes angen disgyblu

  • Cyhoeddwyd
bryn parry jones
Disgrifiad o’r llun,
Y prif weithredwr Bryn Parry Jones

Mae cynghorwyr Sir Benfro wedi penderfynu ystyried penodi person annibynnol i benderfynu a ddylid cymryd camau disgyblu yn erbyn y prif weithredwr.

Roedd pwyllgor arbennig ddydd Gwener yn amlinellu natur yr ymchwiliad i'r prif weithredwr Bryn Parry Jones.

Ymhen mis bydd y pwyllgor yn penderfynu materion yn ymwneud ag ymddygiad, ymddiriedaeth, a hyder - a hefyd benodi person annibynnol i arwain ymchwiliad.

Cafodd y pwyllgor ei sefydlu oherwydd pleidlais o ddiffyg hyder yn Mr Parry Jones yr wythnos ddiwethaf yn dilyn anghydfod am daliadau ychwanegol i'w gyflog.

Beirniadu

Fe fydd y pwyllgor yn casglu tystiolaeth am yr honiadau ac yn penderfynu a ddylid penodi rhywun annibynnol i barhau ag ymchwiliad posib.

Pe bai hynny'n digwydd, fe fyddai adroddiad yn cael ei lunio a'i gyflwyno i'r pwyllgor.

Yna fe fydd gan y pwyllgor bum opsiwn:

  • dim camau pellach;
  • cyfeirio yn ôl i'r person annibynnol er mwyn ymchwiliad pellach;
  • argymell datrysiad anffurfiol;
  • camau disgyblu;
  • diswyddo.

Pe bai'r pwyllgor yn dewis camau disgyblu neu ddiswyddo byddai cyfle i'r prif weithredwr roi tystiolaeth cyn bod unrhyw benderfyniad terfynol.

Mae'r ffrae yn deillio o benderfyniad Swyddfa Archwilio Cymru ddechrau'r flwyddyn fod y cyngor wedi gweithredu'n anghyfreithlon drwy adael i Mr Parry Jones, ac uwch swyddog arall, ddewis peidio cymryd rhan mewn cynllun pensiwn a derbyn taliadau arian parod yn lle hynny.

Rhagor o wybodaeth

Methodd ymchwiliad gwreiddiol yr heddlu â dod o hyd i unrhyw dystiolaeth fyddai'n agrymu unrhyw drosedd.

Ond yna cyhoeddodd yr heddlu ymchwiliad o'r newydd ar ôl darganfod rhagor o wybodaeth.

Ym mis Gorffennaf dywedodd y cyngor na fydden nhw'n cymryd unrhyw gamau pellach i adennill yr arian a dalwyd i Mr Parry Jones ac i'r uwch swyddog arall dan sylw.