Gŵyl gerdd yn cynnwys perfformiad cyntaf o waith newydd
- Cyhoeddwyd
Bydd Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru eleni yn cynnwys y perfformiad cyntaf erioed o waith cerddorfaol newydd gan Gareth Glyn sydd yn seiliedig ar Y Gododdin, gan Aneirin.
Mae'r gerdd yn adrodd ymgais drychinebus llwyth y Gododdin i gipio Catraeth yn Sir Efrog o ddwylo llwyth Almaenig yn tua 595 OC.
Mae Mr Glyn, o Ynys Môn, wedi cyfansoddi amrywiaeth eang o ddarnau cerddorol, gan gynnwys gweithiau cerddorfaol a cherddoriaeth ar gyfer y teledu.
Gweithiodd gyda'r cyfarwyddwr ffilm Danny Boyle i ddarparu un o'r trefniannau cerddorol ar gyfer seremoni agoriadol Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain.
Bydd Gododdin, fydd yn cael ei berfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn un o uchafbwyntiau'r ŵyl flynyddol yn Llanelwy.
Bydd canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn cael ei nodi gyda darlleniadau o ddrama eiconig y bardd, Under Milk Wood, yn ogystal â pherfformiad arbennig o Under Milk Wood Jazz Suite gan Stan Tracey, a gafodd ei ysbrydoli gan waith Dylan Thomas.
Yn ogystal, bydd cyngerdd arbennig i ddathlu bywyd a gwaith sylfaenydd yr ŵyl, y diweddar Athro William Mathias, a fyddai wedi bod yn 80 eleni.
Yn ôl yr ŵyl roedd yr Athro Mathias yn ystyried sefydlu Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn 1972 yn un o'i lwyddiannau mwyaf.
Ymwelodd â phob lleoliad posibl yng ngogledd Cymru cyn penderfynu mai Eglwys Gadeiriol Llanelwy oedd y lleoliad acwstig gorau ar gyfer y digwyddiad.
Bydd y pianydd Llŷr Williams, o Bentrebychan ger Wrecsam, yn ymddangos yn yr ŵyl a dywedodd bod ganddo atgofion melys o berfformio yn Llanelwy.
"Roeddwn wedi chwarae yma pan oeddwn yn 10 mlwydd oed," meddai.
"Ar ôl y perfformiad mi wnes i gwrdd â sylfaenydd yr ŵyl, yr Athro William Mathias.
"Roedd yn ysbrydoliaeth fawr pan oeddwn yn ifanc ac mae'n braf bob amser i ddychwelyd i'r Eglwys Gadeiriol gan fod yr Athro Mathias wedi ei gladdu yma ac mae hynny bob amser yn fy ysbrydoli pan fydda i'n chwarae fan hyn."
Ymhlith y rhai eraill fydd yn ymweld â'r ŵyl eleni fydd y Tippett String Quartet ynghyd â'r pianydd David Owen Norris, a fydd yn perfformio rhaglen o gerddoriaeth biano o gasgliad teulu Jane Austen sydd newydd gael eu darganfod.
Bydd Opera Canolbarth Cymru yn perfformio Acis and Galatea a bydd cyngerdd Aspire and Inspire yn rhoi cyfle i bobl ifanc berfformio ochr yn ochr â cherddorion proffesiynol.
Mae Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn parhau tan 27 Medi.
Straeon perthnasol
- 7 Mehefin 2014
- 20 Medi 2013
- 22 Medi 2012