'Cynllwynio i ladd': Merch yn derbyn rhybudd heddlu

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Cwmcarn ac Alison Cray
Disgrifiad o’r llun,
Y gred yw mai Alison Cray oedd targed y cynllwyn yn Ysgol Cwmcarn

Mae'r ail ferch mewn cynllwyn honedig i ladd athrawes mewn ysgol yn Sir Caerffili wedi derbyn rhybudd gan yr heddlu.

Roedd y ferch, sy'n 15 oed ac yn dod o Drecelyn, Sir Caerffili, wedi ei harestio ym mis Mai, gyda merch arall oedd yn 14 oed ar y pryd.

Roedd y ferch o Drecelyn wedi ei harestio ar amheuaeth o fygythiadau i ladd, bod â llafn yn ei meddiant ar dir yr ysgol a chynllwynio i lofruddio.

Dywedodd Heddlu Gwent na fydd unrhyw weithredu pellach yn erbyn y ferch.

Y gred yw mai Alison Cray, athrawes Fathemateg yn yr ysgol, oedd targed y cynllwyn honedig.

Roedd y ferch arall oedd wedi ei harestio eisoes wedi ei rhyddhau ym mis Awst gyda Heddlu Gwent yn dweud na fyddai unrhyw weithredu pellach yn ei herbyn.