Guto Bebb yn ymddiheuro am wneud honiad ynglŷn â blog
- Cyhoeddwyd

Mae Guto Bebb, Aelod Seneddol Aberconwy, wedi ymddiheuro am awgrymu bod partner busnes David Jones, cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn un o'r rhai oedd yn gyfrifol am ysgrifennu blog dienw.
Yn gynharach yn y mis roedd Mr Bebb wedi honni yn Nhŷ'r Cyffredin fod Dylan Moore yn gyfrifol am flog oedd yn "hambygio, sarhau a bwlio" pobl.
Roedd yr AS wedi honni bod ditectif preifat wedi cael tystiolaeth fod blog Thoughts of Oscar yn cael ei gyhoeddi o gartref yn Neganwy ac o swyddfa cyfreithwyr David Jones yn Llandudno.
Yn Nhŷ'r Cyffredin roedd Mr Bebb wedi dweud bod "y blog lleol yn eitha' milain ac annymunol" a'i fod yn canolbwyntio'n bennaf ar wleidyddiaeth ac yn targedu unigolion.
Ond mewn datganiad ddydd Gwener dywedodd: "Ers y drafodaeth rydw i wedi cyfarfod Mr Moore ac o ganlyniad i drafodaethau maith a manwl rydw i wedi fy modloni, yn wahanol i gasgliadau'r ditectif preifat wnes i gyfeirio atyn nhw yn Nhŷ'r Cyffredin, nad Mr Moore yw awdur y blog na'i fod wedi chwarae unrhyw ran yn y blog."
Dywedodd y byddai'n gwneud datganiad i Dŷ'r Cyffredin i gywiro'r cofnod.
Ymateb Dylan Moore
Mae Dylan Moore wedi ymateb i ymddiheuriad Guto Bebb drwy ddweud:
"Mae Mr Guto Bebb AS wedi cydnabod bod yr honiadau wnaeth yn fy erbyn yn anwir.
"Does dim rhaid dweud fy mod i'n eu hystyried fel materion difrifol oherwydd fy mod i'n etholwr iddo ac yn berson proffesiynol sy'n gweithio yn ei etholaeth.
"Gallai'r goblygiadau ar gyfer fy niogelwch ac unrhyw effaith ar fy enw da fod wedi bod yn ddifrifol iawn."
Aeth ymlaen i ddweud: "Rydw i'n falch iawn bod Mr Bebb wedi cydnabod bod y materion gododd yn Nhŷ'r Cyffredin yn anghywir ac rydw i wedi derbyn ei ymddiheuriad.
"Ni fyddaf yn cymryd unrhyw weithredu cyfreithiol pellach yn ei erbyn."
Straeon perthnasol
- 10 Medi 2014
- 12 Medi 2014