Gwasanaeth Ambiwlans: Pennaeth yn gadael
- Cyhoeddwyd
Bydd prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gadael ei swydd ddiwedd y mis.
Dywedodd Bwrdd yr Ymddiriedolaeth fod Elwyn Price-Morris wedi bod yn dioddef gyda phroblemau iechyd am gyfnod o chwe mis, a'i fod yn gadael ei swydd ar ôl derbyn cyngor meddygol.
Bydd Tracy Myhill, dirprwy brif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn llenwi'r swydd dros dro am gyfnod o 12-18 mis.
Dywedodd Mick Giannasi, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Mae Elwyn wedi arwain yr Ymddiriedolaeth am bedair blynedd ac wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'w ddatblygiad. Er bod sawl her o'n blaenau, gan gynnwys gwella perfformiad, mae'n gadael y sefydliad mewn gwell cyflwr na phan ymunodd â ni."