Y Gwyll yn dychwelyd ar Ddydd Calan
- Cyhoeddwyd

Bydd drama dditectif Y Gwyll/Hinterland yn dychwelyd gyda phennod arbennig gydag is-deitlau Saesneg ar S4C ar 1 Ionawr.
Bu cyfres gyntaf Y Gwyll/Hinterland, oedd yn dilyn DCI Tom Mathias (Richard Harrington) a'i dîm wrth iddyn nhw ymchwilio i droseddau tywyll yn Aberystwyth, yn hynod boblogaidd gyda gwylwyr wrth iddi gael ei darlledu ar S4C, BBC Cymru Wales a BBC Four.
'Cael ei wthio at y dibyn'
Yn niweddglo'r gyfres gwelsom DCI Tom Mathias - cyn dditectif gyda Heddlu'r Met yn Llundain sy'n byw o ddydd i ddydd dan gysgod tywyll ei orffennol - yn cael ei wthio at y dibyn.
Mae'r cynhyrchwyr Fiction Factory wedi cyhoeddi y bydd Richard Harrington yn dychwelyd fel Mathias yn y bennod newydd, ond ble mae e wedi bod, a sut mae pethau wedi newid ers iddo fynd?
'Misoedd ar fisoedd o waith caled'
"Rydym yn falch o gyhoeddi bod y cast a'r criw yn ôl yn ffilmio yng Ngheredigion ar gyfer y rhaglen arbennig fydd ymlaen ddydd Calan," meddai Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C.
"Daw hyn ar ôl misoedd ar fisoedd o weithio'n galed i ddatblygu straeon gafaelgar a dyrys ar gyfer y penodau nesaf. Gall y gwylwyr edrych ymlaen at ragor o straeon cyffrous fydd yn gwneud iddyn nhw guddio tu ôl i'w clustogau, a hefyd i ddod i wybod mwy am ein prif gymeriadau a'u gorffennol dirgel."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2014
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2013