Ail rownd dda i Donaldson a Price

  • Cyhoeddwyd
Jamie DonaldsonFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Jamie Donaldson a Phil Price wedi cael rowndiau da ym Mhencampwriaeth Golff Agored Cymru ar gwrs y Celtic Manor yng Nghasnewydd.

Wedi rownd gyntaf o 71 roedd angen rhywbeth arbennig ar Price i ymuno â'r ceffylau blaen a dyna gafwyd yn gynnar fore Gwener. Fe gafodd chwe phluen mewn rownd o 66 i'w adael bum ergyd yn well na'r safon ar ddiwedd yr ail ddiwrnod.

Dechreuodd Donaldson yn y prynhawn i ddilyn ei rownd o 70 ddydd Iau, ac mewn rownd di-fai fe gafodd bedair pluen i ddod yn gyfartal â Price ar -5.

Mae'r ddau ohonyn nhw bedair ergyd y tu ôl i Shane Lowry o Iwerddon sy'n arwain hanner ffordd drwy'r bencampwriaeth gyda chyfanswm naw ergyd yn well na'r safon wedi rownd o 66 ddydd Gwener.

Bydd un Cymro arall hefyd yn aros i gystadlu dros y penwythnos gan i Bradley Dredge orffen dydd Gwener ar -1.

Yn gydradd ail ar hyn o bryd mae Joost Luiten o'r Iseldiroedd a Nicolas Colsaerts o wlad Belg ar -8. Fe ddaeth hi'n amlwg fod Colsaerts wedi torri record cylchdaith Ewrop am yr ergyd hiraf erioed yn ystod ei rownd gyntaf ddydd Iau gan daro'r bêl 447 llath ar y twll olaf - dros chwarter milltir!

Pencampwriaeth Agored Cymru - Celtic Manor, Casnewydd: Diwedd yr ail rownd :-

1. Shane Lowry: -9 (68;65)

=2. Joost Luiten: -8 (65;69)

=2. Nicolas Colsaerts: -8 (66;68)

Y Cymry =

=10. Jamie Donaldson: -5 (70;67)

=10. Phil Price: -5 (71;66)

=40. Bradley Dredge: -1 (71;70)