'Gwobrwywch Gymru' medd Rhodri Morgan
- Cyhoeddwyd

Fe ddylai Cymru gael ei gwobrwyo am beidio "rhoi'r DU drwy'r felin" o refferendwm ar annibyniaeth, yn ôl y cyn brif weinidog Rhodri Morgan.
Roedd yn siarad yn dilyn canlyniad refferendwm yr Alban pan bleidleisiodd 55% o blaid aros yn y DU.
Mae David Cameron wedi addo y bydd Cymru "yng nghanol" trafodaethau am ddyfodol y DU.
Dywedodd Mr Morgan ei fod yn cefnogi ei olynydd Carwyn Jones a ddywedodd y dylai Cymru gael ei hariannu yn decach gan y Trysorlys yn San Steffan.
Pwysleisiodd Mr Morgan bod yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu trin yn well na Chymru gan Fformiwla Barnett - sy'n cael ei ddefnyddio i ddosrannu arian i ranbarthau'r DU - a bod angen diwygio'r fformiwla wrth ystyried dyfodol y DU.
Dywedodd Mr Morgan wrth BBC Cymru: "Rhaid i ni feddwl na ddylai Cymru gael ei chosbi am beidio cynnal refferendwm ar annibyniaeth, am beidio bod â nwy ac olew Môr y Gogledd, am beidio cael y trafferthion y mae Gogledd Iwerddon wedi eu cael.
"Wnaethon ni ddim rhoi'r DU drwy'r felin, felly fe ddylen ni gael ein gwobrwyo nid ein cosbi, am hynny."
'Angen undeb newydd'
Yn gynharach mynnodd Carwyn Jones y byddai Cymru'n anfodlon eistedd yn y sedd gefn wrth i ddyfodol datganoli gael ei drafod.
Galwodd ar lywodraeth y DU i ateb y broblem fod Cymru yn derbyn £300 miliwn y flwyddyn yn llai nag y dylai.
Dywedodd Mr Jones: "Mae angen i David Cameron ein casglu i gyd o gwmpas y bwrdd, ac mae'n bryd rhoi ein cyfansoddiad ar seiliau mwy cadarn yn hytrach na chwarae ar y cyrion flwyddyn ar ôl blwyddyn.
"Mae'r DU wedi cael anaf difrifol - wnaiff plastar mo'r tro.
"Mae'r hen 'undeb' yn farw - mae'n bryd cael undeb newydd.
"Rhai i arweinwyr y tair plaid yn y DU wireddu eu haddewidion."
Straeon perthnasol
- 19 Medi 2014
- 19 Medi 2014
- 19 Medi 2014