Gleision 9-26 Ulster
- Cyhoeddwyd

Mae Gleision Caerdydd wedi colli eu gêm gartref yn erbyn Ulster, a hynny o 9-26.
Sgoriodd Dan Tuohy ei drydydd cais mewn tair gêm wrth i Ulster lwyddo i barhau gyda chychwyn di-guro i'w hymgyrch yn y Pro12.
Yn yr hanner cyntaf daeth yr holl bwyntiau i'r ddau dîm drwy giciau cosb, wrth i Rhys Patchell sgorio 9 pwynt i'r Gleision a Paddy Jackson sgorio 12 pwynt i Ulster.
Ond newidiodd pethau yn yr ail hanner wrth i Dan Tuohy sgorio cais i Ulster, a Jackson lwyddo gyda'r trosiad.
Ac ychydig cyn diwedd yr ail hanner llwyddodd Ulster i sgorio cais arall wrth i Ian Humphreys groesi'r llinell a llwyddo gyda'r trosiad.