Canlyniadau Cynghrair Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cynghrair Cymru

Bala 0-3 Seintiau Newydd

Colli gwnaeth Bala gartref yn erbyn y Seintiau Newydd.

Doedd pethau ddim yn edrych yn addawol pan gafodd golwr Bala, Ashley Morris, ei anfon o'r cae yn dilyn tacl ar Greg Draper.

Ond llwyddodd yr eilydd, Craig Vernon, i atal y Seintiau Newydd rhag gwneud y gorau o'r gic o'r smotyn.

Doedd y tîm cartref ddim mor lwcus wrth i Ryan Fraughan sgorio o'i gic o'r smotyn yn yr ail hanner.

A pharhau gwnaeth y boen i'r Bala wrth i Sam Finley sgorio i'r ymwelwyr yn y 68 munud, ac Aeron Edwards wedi 72 munud.

Bangor 3-3 Prestatyn

Gêm gyfartal cafwyd yn Nantporth rhwng Bangor a Phrestatyn.

Aeth y tîm cartref ar y blaen yn gynnar wedi i Chris Jones sgorio yn y seithfed munud.

Sgoriodd Prestatyn ychydig cyn diwedd yr hanner cyntaf i ddod â phethau'n gyfartal, ond ni pharhaodd hynny'n hir wrth i Fangor daro'n ôl yn y munudau olaf cyn diwedd yr hanner.

A pharhaodd goliau Bangor yn yr ail hanner, gyda gôl yn y 60 munud yn cynyddu eu mantais i 3-1.

Ond doedd y fantais honno ddim am barhau'n hir wrth i Brestatyn sgorio ychydig funudau'n ddiweddarach, a diflannodd y fantais yn llwyr wrth i Brestatyn sgorio yn y 90 munud.

Cei Connah 1 -3 Rhyl

Colli gwnaeth Cei Connah gartref yn erbyn Rhyl.

Sgoriodd Liam Dawson yn y 32 munud i Rhyl.

Ychydig funudau'n unig cyn diwedd yr hanner cyntaf derbyniodd Luke Holden gerdyn coch, gan olygu byddai'n rhaid i Gei Connah chwarae gweddill y gêm gyda dim ond 10 chwaraewr.

A gwnaeth Rhyl y mwyaf o'u mantais wrth i Michael Walsh sgorio.

Doedd mantais Rhyl o ddwy gôl ddim am barhau'n hir wrth i Sean Miller sgorio i Gei Connah funud yn ddiweddarach.

Ond doedd canlyniad y gêm ddim mewn unrhyw fath o berygl wedi i Levi Mackin sgorio i Rhyl yn y 78 munud.

Port Talbot 1-2 Aberystwyth

Ennill oedd hanes Aberystwyth yn eu gêm oddi cartref ym Mhort Talbot.

Aeth Port Talbot ar y blaen yn gynnar yn y gêm diolch i ergyd gan Martin Rose.

Ond ar y 42 munud sgoriodd Chris Venables i Aberystwyth er mwyn dod â'r sgôr yn gyfartal.

Ac Aberystwyth oedd yn parhau i gael y gorau o'r chwarae wrth i Mark Jones sgorio i'w rhoi ar y blaen.

Y Drenewydd 4-1 Derwyddon Cefn

Ennill gartref oedd hanes Y Drenewydd yn erbyn Derwyddon Cefn.

Aeth Drenewydd ar y blaen wedi 23 munud diolch i gôl gan Jason Oswell, a llwyddodd y tîm cartref i gynyddu eu mantais wrth i Craig Williams sgorio yn y munud olaf cyn hanner amser.

Yn fuan yn yr ail hanner sgoriodd Chris Rimmer i'r Derwyddon, gan leihau mantais y tîm cartref i un gôl.

Ond doedd dim amheuaeth am y canlyniad, yn enwedig wedi i Matt Hearsay sgorio i'r Drenewydd wedi 73 munud.

Ac aeth pethau o ddrwg i waeth i'r Derwyddon wrth i Chris Rimmer rwydo yn ei gôl ei hun.

Airbus 2-0 Caerfyrddin

Ennill gartref gwnaeth Airbus yn erbyn Caerfyrddin.

Roedd digon o gyffro a chyfleoedd i'r ddau dîm yn gynnar yn yr hanner cyntaf, ond dim llwyddiant wrth geisio canfod cefn y rhwyd.

Newidiodd hynny yn yr ail hanner wrth i Airbus fynd ar y blaen diolch i gôl gan Matty McGinn wedi 51 munud, a daeth ail gôl i'r tîm cartref 20 munud yn ddiweddarach wrth i Tom Field sgorio cic o'r smotyn.