Gwasanaeth coffa i ddathlu bywyd Isaac Nash
- Published
Daeth dros 150 o bobl i wasanaeth coffa ddydd Sul i ddathlu bywyd y bachgen 12 oed, Isaac Nash, cafodd ei ysgubo i'r môr oddi ar arfordir Ynys Môn.
Daeth aelodau o deulu Isaac a'r gymuned leol i'r gwasanaeth yn Eglwys Sant Beuno yn Aberffraw, gyda'r Parch Emlyn Williams yn arwain y digwyddiad.
Roedd yr eglwys mor llawn ar gyfer y gwasanaeth nes bod rhaid i rai sefyll, ac roedd eraill yn sefyll tu allan gan glywed y gwasanaeth drwy seinyddion.
Dywedodd y Parch Williams wrth y gynulleidfa bod y teulu am i'r gwasanaeth for yn ddathliad o fywyd Isaac ac yn gyfle i ddiolch i'r gymuned am eu help wrth chwilio am Isaac.
Prin oedd y rhai mewn du yn yr eglwys, a hynny yn unol â dymuniadau'r teulu.
Roedd aelodau o'r heddlu a gwylwyr y glannau ymysg y rhai ddaeth i'r eglwys.
Straeon perthnasol
- Published
- 3 Medi 2014
- Published
- 1 Medi 2014
- Published
- 31 Awst 2014
- Published
- 30 Awst 2014