Mwy o bwerau i ranbarthau Lloegr?
- Cyhoeddwyd

Rhoi mwy o bŵer i ranbarthau Lloegr yw'r ateb i ddyfodol y DU, yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Wrth drafod oblygiadau'r bleidlais 'Na' i annibyniaeth yn yr Alban, dywedodd Carwyn Jones y byddai hynny'n fwy addas na pholisi o 'bleidleisiau Seisnig ar faterion Seisnig' yn Senedd y DU.
Neithiwr, dywedodd y gweinidog yn Swyddfa Cymru Alun Cairns ei bod hi'n bosib y gallai ASau Cymreig wynebu cyfyngiadau gwahanol ar bleidleisio yn San Steffan nag ASau Albanaidd.
Ond dywedodd Mr Jones fod angen eglurder ar bwy sy'n gyfrifol am beth ar draws y DU.
Wrth siarad â BBC Radio Wales fore Sadwrn, ailadroddodd ei alwad ar i Gymru gael "cyfran deg o'r pot" o gyllid y Trysorlys, a mwy o bwerau dros bolisi ynni i greu swyddi a llewyrch.
Dywedodd Mr Jones y byddai'n "gymhleth tu hwnt" i benderfynu pa gyfreithiau fyddai ond yn berthnasol i Loegr.
"Pam cael sefydliad yn San Steffan sy'n eistedd fel tair neu bedair senedd wahanol yn dibynnu ar ba fater sydd gerbron yr aelodau yno? Dwi ddim yn credu y byddai hynny'n gweithio'n dda," meddai.
"Mae hi naill ai'n senedd lle mae bob aelod seneddol yn gyfartal, neu dyw hi ddim."
Galwodd Mr Jones hefyd am bwerau dros bolisi ynni i Gymru fel sydd gan Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan ychwanegu:
"Mae ynni yn adnodd anferth yng Nghymru yn enwedig ynni morol allai greu swyddi yng Nghymru, a gallwn ni wneud dim am hynny.
"Mae'r Alban yn gallu taflu lot mwy o arian at ynni morol er bod ein hamgylchiadau ni yn well yn nhermau'r cyfleoedd sy'n cael eu cynnig."
Ar raglen Wales Today nos Wener, awgrymodd Alun Cairns y gellid cael trefniadau gwahanol ar gyfer pleidleisio gan grwpiau gwahanol o ASau yn Nhŷ'r Cyffredin.
Dywedodd AS Bro Morgannwg: " Rydyn ni'n deulu o genhedloedd a dyw'r model ar gyfer yr Alban ddim o reidrwydd yn iawn ar gyfer Cymru.
"Does dim angen i ni gael ein llyffetheirio gan y model a fydd yn addas ar gyfer yr Alban.
"Felly bydd y datrysiad ar gyfer dylanwad ASau'n wahanol, a dyna'r manylion sydd angen gweithio arnyn nhw."