Cludo dynes i'r ysbyty mewn hofrennydd
- Published
image copyrightSteve Daniels
Cafodd dynes ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd wedi iddi ddisgyn ar Ben y Gogarth, Llandudno.
Syrthiodd y ddynes 61 oed nos Wener a galwyd tîm achub mynydd Dyffryn Ogwen a gwylwyr y glannau i'w chynorthwyo.
Roedd y gerddwraig wedi anafu ei hysgwydd a bu'n rhaid i hofrennydd yr Awyrlu o'r Fali ei chludo i'r ysbyty.
Mae'r ddynes wedi derbyn triniaeth yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.