Derby County 2-2 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Derby County 2-2 Caerdydd
Gydag ymadawiad Ole Gunnar Solskjaer fe ddaeth Danny Gabbidon a Scott Young i'r adwy dros dro i arwain y tîm.
Doedd dim llawer i gynhesu calonnau'r ffyddloniaid a deithiodd i Derby - roedd y tîm cartref yn rheoli'n llwyr a dim ond perfformiad campus gan y golwr David Marshall a gadwodd yr Adar Gleision yn y gêm.
Ond bobl bach fe newidiodd pethau'n gyflym ar ddechrau'r ail hanner.
Wedi 51 munud fe arweiniodd gwaith da Pilkington ac Aron Gunarsson at gic gornel i Gaerdydd, ac o'r gic fe ddaeth cyfle i Gunarsson benio i gefn y rhwyd.
Roedd hynny'n syndod i'r cefnogwyr cartref, ond o fewn pedwar munud roedd yr un yn ddwy - pasio cywrain eto gan Pilkington a phan ddaeth y bêl at Peter Whittingham fe darodd foli ardderchog i gornel y rhwyd.
Y gêm olaf Solskjaer wrth y llyw oedd pan gollodd Caerdydd ar ôl bod ddwy ar y blaen yn erbyn Norwich, ac roedd adlais o'r hunllef yna wedi 61 munud pan sgoriodd Jordon Ibe i'r tîm cartref.
Aeth pethau'n fwy pryderus i Gaerdydd pan ddaeth Derby'n gyfartal gyda chwe munud yn weddill wrth i Craig Bryson sgorio.
Bydd gêm gyfartal yn siom ar ôl bod ar y blaen eto, ond mae pwynt yn well na dim i dîm sydd yng nghanol cyfnod cythryblus.
Bydd y cefnogwyr nawr yn disgwyl yn awchus am gyhoeddiad ynglŷn â rheolwr newydd llawn amser i'r clwb - mae disgwyl hynny yn fuan.