Amwythig 0-0 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Amwythig 0-0 Casnewydd
Roedd y gêm yn Amwythig yn ddigon cyffrous er gwaetha'r sgor terfynol, gyda'r ddau dîm yn creu cyfleoedd fel ei gilydd.
Fe allai Casnewydd fod wedi bod ddwy ar y blaen o fewn y pum munud cyntaf wrth i golwr Amwythig arbed cynigion gan Lee Minshull a Robbie Wilmott.
Ond digon cyfartal oedd yr ystadegau o safbwynt meddiant ac ergydion, a bu'n rhaid i'r ddau golwg fod yn brysur i'w chadw hi'n ddi-sgor.
Fe allai fod wedi bod yn well i Gasnewydd, ond roedden nhw'n euog o fethu cyfleoedd da gyda Darren Jones a Lee Minshull yn methu cyfleoedd i benio gol o chwe llath, ond y ddau yn methu taro'r targed.
Yna wedi 85 munud fe welodd Andy Hughes y cerdyn coch i Gasnewydd, ac roedd y pum munud olaf yn frwydr.
Ond aros yn gyfartal wnaeth hi gan ennill pwynt gwerthfawr i dîm Justin Edinburgh.