Golff: Diwrnod gweddol i'r Cymry
- Cyhoeddwyd

Cymhedrol yw'r gair gorau i ddisgrifio diwrnod y tri Chymro sy'n dal i gystadlu ym Mhencampwriaeth Agored Cymru ar gwrs y Celtic Manor yng Nghasnewydd.
Phil Price fydd y mwya siomedig o'r tri. Fe ddechreuodd y diwrnod bum ergyd yn well na'r safon ac fe gafodd eryr ar yr 11eg twll, ond hefyd ildio ergydion ar dyllau eraill i orffen yn gyfartal a'r safon am y dydd.
Y cynharaf o'r tri i ddechrau oedd Bradley Dredge. Fyny ac i lawr oedd ei rownd yntau hefyd gyda chwe phluen ond ildio dwy ar y 14eg.
Er hynny fe orffennodd gyda rownd o 68 i gael cyfanswm bedair yn well na'r safon, ac mae e a Price yn dal yn y ffrâm.
Fe fyddai rhywun yn maddau i Jamie Donaldson o fod ag un lygad ar Gwpan Ryder yr wythnos nesaf, ond unwaith eto er oedd y mwya' cyson o'r Cymry - pedair pluen a dim ond un wedi ildio i orffen gyda 68 - wyth yn well na'r safon.
Mae Donaldon chwe ergyd y tu ôl i Joost Luiten o'r Iseldiroedd a gafodd rownd wych o 65 o agor bwlch ar y brig, ond mae Donaldson wedidweud ei fod yn dal yn obeithiol o ennill y gystadleuaeth yfory cyn anelu am y penwythnos mawr yn Gleneagles.
Pencampwriaeth Agored Cymru - Celtic Manor, Casnewydd - diwedd y drydedd rownd :-
1. Joost Luiten: -14 (65;69;65)
2. Shane Lowry: -12 (68;65;68)
=3. Gregory Havret: -11 (69;67;66)
=3. Thongchai Jaidee: -11 (68;67;67)
Y Cymry :-
=9. Jamie Donaldson: -8 (70;67;68)
=23. Phil Price: -5 (71;66;71)
=27. Bradley Dredge: -4 (71;70;68)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Medi 2014