Caer v Wrecsam: Prinder cefnogwyr?

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pêl-droed Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,
Ni fydd cefnogwyr Wrecsam sy'n teithio i Gaer ar eu liwt eu hunain yn cael mynediad i'r gêm.

Mae pryderon y bydd prinder cefnogwyr yn gwylio'r gêm ddarbi rhwng Caer a Wrecsam nos Lun, a hynny oherwydd y trefniadau diogelwch.

Mae'n rhaid i'r holl gefnogwyr sydd am fynychu'r gêm fod â thocyn o flaen llaw ac mae'n rhaid i'r cefnogwyr oddi cartref, cefnogwyr Wrecsam, deithio i'r gêm mewn bysiau wedi eu trefnu gan y clwb.

Ni fydd cefnogwyr y Dreigiau sy'n teithio i Gaer ar eu liwt eu hunain yn cael mynediad i'r gêm.

Mae'r trefniadau wedi eu gwneud yn dilyn cyngor gan yr heddlu ac mae rhai cefnogwyr wedi dweud y byddan nhw'n boicotio'r gêm oherwydd y mesurau diogelwch.

Gwerthiant i lawr?

Yn ôl adroddiadau ym mhapur newydd The Leader ychydig gannoedd o docynnau sydd wedi eu gwerthu ar gyfer y gêm hyd yn hyn, er gwaethaf y ffaith bod mwy na 4,300 o gefnogwyr wedi dod i wylio'r un gêm y llynedd.

Y trefniadau diogelwch sy'n cael y bai am y niferoedd isel sydd wedi prynu tocynnau i'r gêm, gyda rhai cefnogwyr wedi penderfynu peidio â mynd oherwydd eu bod yn anghytuno â'r drefn.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Clwb Pêl-Droed Caer, Clwb Pêl-Droed Wrecsam, Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Sir Caer eu bod wedi cytuno, o ganlyniad i bryderon diogelwch, y bydd angen i gefnogwyr gael tocynnau o flaen llaw ac y bydd yn rhaid i gefnogwyr Wrecsam deithio i'r gêm ar fysiau swyddogol wedi eu trefnu gan y clwb.

Yn ôl y datganiad, y bwriad ydi helpu gwneud y digwyddiad yn ddiogel i bawb, tra'n lleihau unrhyw anghyfleuster posib i gymunedau a busnesau lleol a'r cyhoedd.