Creu Confensiwn Cyfansoddiadol gyda 'chymorth torfol'

  • Cyhoeddwyd
San SteffanFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Yn ôl yr IWA, os yw Llywodraeth y DU yn San Steffan yn gwrthod sefydlu Confensiwn Cyfansoddiadol bydd yn rhaid i gymdeithas sifil yng Nghymru arwain y ffordd.

Mae'r Sefydliad Materion Cymreig (IWA) wedi cyhoeddi cynlluniau i sefydlu Confensiwn Cyfansoddiadol gyda "chymorth torfol" er mwyn trafod beth y dylai Cymru ei fynnu mewn unrhyw drafodaeth ynglŷn â dyfodol y DU.

Wedi'i seilio ar brofiadau yng Ngwlad yr Iâ, pan ddaeth trigolion at ei gilydd yn dilyn yr argyfwng ariannol i ysgrifennu cyfansoddiad newydd i'r wlad, bydd yr IWA yn galw am gyfraniadau gan aelodau o'r gymdeithas sifil er mwyn creu consensws ynglŷn ag unrhyw newid.

Dywedodd cyfarwyddwr yr IWA, Lee Waters: "Os yw Llywodraeth y DU yn gwrthod sefydlu Confensiwn Cyfansoddiadol bydd yn rhaid i gymdeithas sifil yng Nghymru arwain y ffordd.

"Rydym ni wedi arbrofi gyda dull o ddefnyddio'r we i gael "cymorth torfol" i ddatblygu polisi drwy ddod â phobl at ei gilydd i drafod newidiadau polisi.

"Rydym yn bwriadu adeiladu ar y sylfaen honno i greu trafodaeth eang gyda phobl ar draws Cymru, a thu hwnt, ynglŷn â chreu setliad cyfansoddiadol sefydlog."

'Egni a brwdfrydedd'

Mae'r IWA yn bwriadu dod â grŵp o unigolion a mudiadau o'r gymdeithas sifil at ei gilydd yn yr wythnosau nesaf i gynllunio Confensiwn Cyfansoddiadol.

Yn ôl dadansoddwraig polisi'r IWA, Jessica Blair: "Mae'r IWA eisoes wedi arbrofi gyda'r dull yma ar raddfa lai er mwyn casglu peth o'n tystiolaeth i Gomisiwn Silk.

"Gwnaethon ni ddod ag arbenigwyr at ei gilydd ar-lein dros gyfnod o chwe wythnos ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf er mwyn trafod goblygiadau ymarferol datganoli pwerau yn ymwneud â chyfiawnder a'r heddlu."

Ychwanegodd Cadeirydd yr IWA ac aelod o Gomisiwn Silk, Helen Molyneux: "Mae refferendwm yr Alban wedi dod ag egni a brwdfrydedd i'r drafodaeth ynglŷn â'r cyfansoddiad.

"Mae'r Albanwyr wedi dangos nad ydi hon yn drafodaeth am strwythurau diflas, ond yn hytrach am wella bywydau pobl.

"Mae'r IWA eisiau creu trafodaeth debyg yng Nghymru ynglŷn â'n dyfodol yn y DU, a sut mae modd creu setliad teg, cytbwys a chynaliadwy."