Sir y Fflint a Wrecsam: Anghytuno dros uno cynghorau
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu'r posibilrwydd o uno'n wirfoddol gyda Chyngor Wrecsam, er gwaethaf y ffaith nad yw Wrecsam yn awyddus i wneud hynny.
Mae Cyngor Wrecsam eisoes wedi rhyddhau datganiad yn dweud y bydd hi'n annhebygol y byddan nhw'n cefnogi unrhyw uno posibl.
Ond dywedodd Cyngor Sir y Fflint bod trafod uno gydag Wrecsam o fudd i'r cyhoedd er mwyn ceisio lleihau costau.
Mae Cyngor Conwy eisoes wedi pleidleisio i ddechrau trafod uno'n wirfoddol gyda Chyngor Sir Ddinbych, wrth i awdurdodau lleol yng Nghymru gael eu hannog i uno'n wirfoddol, gan leihau'r nifer o gynghorau o 22 i 10 neu 12.
'Cyngor yn unedig'
Dywedodd arweinydd cyngor Sir y Fflint, Aaron Shotton: "Mae'r cyngor yn unedig wrth flaenoriaethu diogelu gwasanaethau lleol ar gyfer cymunedau Sir y Fflint ac yn ymwybodol pe bai gwasanaethau yn gallu cael eu diogelu a chostau'n gallu cael eu lleihau drwy uno gwasanaethau gyda Chyngor Wrecsam, byddai archwilio buddiannau posibl uno o fudd i'r cyhoedd."
Ychwanegodd bod angen i lywodraeth Cymru roi eglurhad manylach ynglŷn â chostau a buddion yr uno cyn iddo fynd yn ei flaen.
Ond wythnos diwethaf, mewn datganiad dywedodd Cyngor Wrecsam nad oeddan nhw am uno gyda Sir y Fflint, a hynny yn dilyn ymgynghoriad gyda chynghorwyr.
Dywedodd arweinydd Cyngor Wrecsam, Neil Rogers: "Mae'r aelodau wedi dod i gytundeb unfrydol y dylai Sir Wrecsam aros ar ei gwedd bresennol oherwydd ei bod yn ddigon mawr i sefyll ar ei thraed ei hun."
'Golau oren'
Mae Cyngor Conwy eisoes wedi pleidleisio i ddechrau trafod uno'n wirfoddol gyda Chyngor Sir Ddinbych.
Mewn cyfarfod arbennig, fe ddywedodd cynghorwyr mai "golau oren" yn y broses yw hwn, wedi i gynghorwyr yn Sir Ddinbych ddechrau'r drafodaeth wythnos yn ôl.
Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn cael eu hannog i uno o'u gwirfodd, wrth i lywodraeth Cymru geisio leihau'r nifer o 22 i 10 neu 12.
Fe ddywedodd y Gweinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews y byddai uno gwirfoddol yn rhoi "gwell sicrwydd".
Daw'r datblygiadau wedi i Gomisiwn Williams argymell y dylid torri nifer y cynghorau.
Fe ddywedodd Mr Andrews y gallai cynghorau oedd wedi uno'n wirfoddol fod ar droed yn 2018, ddwy flynedd cyn rhai eraill.
Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA), gallai uno awdurdodau lleol gostio hyd at £200m.
Straeon perthnasol
- 18 Medi 2014
- 9 Medi 2014
- 9 Medi 2014
- 21 Mehefin 2014
- 13 Ebrill 2014
- 31 Ionawr 2014
- 20 Ionawr 2014