Carwyn Jones yn galw am hunanlywodraeth

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi galw am hunanlywodraeth i bob gwlad o fewn y Deyrnas Unedig.

Yn siarad yng nghynhadledd y Blaid Lafur ym Manceinion dywedodd y dylai Cymru gael cynnig yr un pwerau a'r rhai sy'n cael eu cynnig i'r Alban.

"Fe wnes i ymgyrchu gyda llawer ohonoch chi yma heddiw i gadw'r pedair gwlad gyda'i gilydd, a nawr, gyda'n gilydd, mae'n rhaid i ni gadw'n addewid ac ailadeiladu'r Deyrnas Unedig," meddai.

"All hynny ddim digwydd drwy sgwrs ddwyochrog rhwng San Steffan a'r Alban. Wedi'r cwbl fe geisiodd David Cameron wneud hynny a bu bron iddo golli'r undeb gan fod Alex Salmond gam o'i flaen dro ar ôl tro."

Dywedodd nad oes angen annibyniaeth ar Gymru a'r Alban er mwyn sicrhau'r newidiadau mae'r bobl eu heisiau gan fod posib gwneud hynny tra'n parhau i fod yn rhan o'r undeb.

'Hunanlywodraeth i bawb'

Croesawodd y ffaith bod Llafur wedi penderfynu mabwysiadu polisi o gynnal confensiwn cyfansoddiadol - rhywbeth mae e wedi bod yn galw amdano ers peth amser.

"Rwyf wrth fy modd bod y Blaid Lafur wedi gwrando ar fy ngalwad am gynhadledd ac rwy'n edrych ymlaen at weld cyfraniad Cymru o'r diwrnod cyntaf," meddai.

"Ac mae'n rhaid i ni ddarparu'r dyfodol i'r Alban gafodd ei addo - cyfran deg o'r adnoddau, sedd wrth y bwrdd a Senedd bwerus.

"Mae'n rhaid cynnig hynny i Gymru hefyd. Hunanlywodraeth i bawb."

Ymddiheuriad?

Ond mae Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, wedi cyhuddo Mr Jones o siarad geiriau gwag gan ei fod dan bwysau.

Dywedodd: "Ar ôl blwyddyn o ddiswyddo gweinidogion, safonau disgyblion yn gwaethygu a rhestrau aros iechyd yn cynyddu, mae'n anhygoel nad oedd Carwyn Jones yn gallu ymddiheuro.

"Tra mae cleifion yng Nghymru yn cael trafferth cael gafael ar gyffuriau canser sydd ar gael yn hawdd yn Lloegr a pan mae un o bob saith o bobl yn parhau i fod ar restr aros y GIG, mae ganddo'r wyneb i sefyll o flaen ei blaid a brolio'i reolaeth ei hun o'r GIG.

"Dim ond yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth sefydliad sy'n cynrychioli 7,000 o ddoctoriaid alw am ymchwiliad llawn o'r GIG yng Nghymru, gan adleisio ein galwad ni. Dyw e ddim yn syndod fod arweinydd Llafur yng Nghymru yn dangos yr un anwybodaeth y mae'n ddangos i gleifion Cymreig sy'n haeddu gwell."

Ychwanegodd: "Mae Carwyn Jones yn canu am dangyllido, ond eto mae ei fos yn Llundain yn dweud bod Fformiwla Barnett yn iawn.

"Mae'n glir bod angen i Lafur gael eu blaenoriaethau nhw'i hunain yn iawn cyn ymosod ar eraill ynghylch datganoli."

Capio budd-dal plant

Mae disgwyl i Ed Balls, fyddai'n ganghellor petai Llafur yn ennill etholiad cyffredinol 2015, gyhoeddi y byddai Llafur yn gostwng gwerth budd-daliadau plant tan 2017 mewn termau real.

Mae cynlluniau'r Glymblaid yn golygu na fydd y taliadau yn cynyddu'n unol â chwyddiant nes 2016. Mi fyddai llywodraeth Lafur yn parhau gyda'r polisi yma am flwyddyn arall.

Daw'r cyhoeddiad er gwaetha'r ffaith bod Llafur wedi beirniadu'r Glymblaid am doriadau i fudd-daliadau, gan gynnwys y ffaith bod y Canghellor George Osborne wedi cael gwared ar fudd-dal plant ar gyfer cartrefi sy'n ennill cyflog uchel.

Mae disgwyl i Mr Balls ddweud: "Mi fydd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau eraill fydd ddim yn boblogaidd gyda phawb.

"Yn ystod amser lle mae gwasanaethau cyhoeddus mae pensiynwyr yn dibynnu arnynt dan bwysau, mi wnawn ni roi'r gorau i dalu lwfans tanwydd gaeaf i'r 5% o bensiynwyr cyfoethocaf.

"Rwyf eisiau gweld budd-dal plant yn codi yn unol â chwyddiant yn ystod y tymor nesaf, ond wnawn ni ddim gwario arian allwn ni ddim fforddio.

"Felly am ddwy flynedd gyntaf y Senedd nesaf fe wnawn ni gapio cynnydd mewn budd-daliadau plant ar 1%. Mi fydd yn arbed £400 miliwn yn y tymor nesaf. Mi fydd yr holl arbedion yn mynd at ostwng y diffyg."

Achosi ffrae?

Nos Sul fe ddywedodd arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband bod David Cameron yn bwriadu troi gwledydd y DU yn erbyn ei gilydd.

Roedd yn cyfeirio at y ffaith bod Mr Cameron wedi dweud bod angen edrych ar atal hawl ASau Albanaidd i bleidleisio ar ddeddfwriaeth sydd ond yn ymwneud â Lloegr ar yr un pryd y bydd pwerau newydd yn cael eu trosglwyddo i'r wlad.

Dywedodd Mr Miliband: "Rydym yn gwybod beth rydym am ei weld dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf gan David Cameron ac eraill, sef ceisio troi pob gwlad o fewn ein gwladwriaeth yn erbyn ei gilydd.

"Felly fe welwn ni Lloegr yn erbyn Cymru yn erbyn yr Alban. Dyna yw eu tacteg."