Gorsaf dân Blaenau i gau

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf Dân BlaenauFfynhonnell y llun, Google

Mae Awdurdod Tân y de wedi pleidleisio o blaid cau gorsaf dân Blaenau ym Mlaenau Gwent.

Dim ond tri allan o'r 19 wnaeth gymryd rhan yn y bleidlais gyfrinachol oedd am weld yr orsaf yn aros yn agored.

Roedd yr awdurdod yn dadlau bod angen ei chau er mwyn arbed arian, gan ychwanegu bod eu hastudiaethau yn dangos na fyddai gwneud hynny yn rhoi bywydau mewn perygl.

Ond roedd pobl leol yn gwrthod hynny gyda llawer hefyd yn erbyn cau gan eu bod yn credu y byddai hynny yn amharchus tuag at ddau ddiffoddwr tân o'r orsaf fu farw yn 1996.

Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Kevin Lane a Stephen Griffin yn 1996

Roedd Kevin Lane, 32 a Stephen Griffin, 42 yn ceisio achub pan gafodd y ddau eu lladd gan ffrwydrad.

Ceisio achub bachgen pum mlwydd oed oedd y diffoddwyr ond bu farw Daniel Harford yn y tân hefyd.

Yn ôl yr awdurdod mae'r orsaf yn costio £222,000 y flwyddyn i'w rhedeg.

Cyn y penderfyniad roedd yr Aelod Cynulliad lleol Alun Davies wedi trydar ei fod yn "gobeithio y bydd Awdurdod Tân De Cymru yn edrych ar opsiynau eraill yn hytrach na chau Gorsaf Dân Blaenau".