URC: Cyhoeddi polisi iaith Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi cyhoeddi Polisi Iaith Gymraeg swyddogol.
Mewn datganiad ar wefan yr undeb - sydd erbyn hyn yn ddwyieithog - fe ddywedodd URC mai nod y polisi yw "sicrhau bod yr iaith yn cael ei hystyried ar draws pob agwedd ar fusnes a rygbi a lle bynnag y caiff y gamp ei chwarae gan dimau URC".
Mae'r datganiad yn nodi bod lansio'r wefan ddwyieithog yn rhan o'r polisi.
Fe gafodd y polisi ei lunio ar ôl ymgynghori gyda Chomisiynydd y Gymraeg a roddodd arweiniad ynghylch ei gynnwys.
Mae bwrdd yr undeb wedi cymeradwyo'r polisi.
Monitro
Ymysg cynnwys y polisi, mae canllawiau ar gyfer defnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar gylch gwaith y corff llywodraethu, sy'n cynnwys Stadiwm y Mileniwm.
Mae'r meysydd yn cynnwys:
- y wefan;
- cyhoeddiadau;
- cyfryngau cymdeithasol;
- protocolau ar ateb y ffôn;
- siarad yn gyhoeddus.
Fe fydd staff URC yn gyfrifol am fonitro'r modd y bydd y polisi'n datblygu a'r modd y caiff ei ddefnyddio, ac yn ôl y datganiad, fe fydd y polisi'n esblygu er mwyn adlewyrchu twf rygbi yn y dyfodol.
'Adlewyrchu ein dyletswydd'
Bydd URC hefyd yn parhau i drafod â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg er mwyn cael cyngor ynghylch gweithredu'r polisi.
Meddai Prif Weithredwr Grŵp URC, Roger Lewis: "Rydw i wrth fy modd bod Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi polisi swyddogol sy'n adlewyrchu ein dyletswydd gofal tuag at y defnydd a wneir o'r Gymraeg ar draws camp genedlaethol Cymru.
"Rydym yn cynrychioli camp genedlaethol Cymru, ac mae'n iawn ac yn deg ein bod yn hyrwyddo ac yn hwyluso'r defnydd a wneir o'r Gymraeg yn URC a thrwy'r bobl rydym yn ymwneud â nhw.
"Rydym eisoes yn gwneud llawer iawn o waith drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'r ddogfen bolisi hon yn adlewyrchiad cywir o'n hymrwymiad i'r iaith."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2008