Cymeradwyo parc solar yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo adeiladu parc solar newydd ar gyrion Caernarfon, yn unol ag amodau.
Fe fydd y parc yn cael ei adeiladu ger yr Afon Menai rhwng Caernarfon a'r Felinheli.
Mae'n debyg y bydd y parc yn cael ei leoli ar bron i 28 hectar o dir.
Mae disgwyl i'r parc gynhyrchu 15mw o drydan i'r Grid Cenedlaethol.