Hwyl Wythnos y Glas
- Cyhoeddwyd

Mae miloedd o lasfyfyrwyr ar hyd a lled Cymru yn dechrau ar gyfnod newydd yn eu bywydau yr wythnos hon. Felly beth sydd yn eu disgwyl yn eu hwythnos gyntaf yn y Brifysgol?
Ar ei raglen ar C2, BBC Radio Cymru mae Guto Rhun wedi cael cael gair o gyngor gan fyfyrwyr yn rhai o'n sefydliadau addysg uwch am rai o uchafbwyntiau wythnos y glas a rhai o'r atyniadau tu hwnt i'r coleg:
Prifysgol Aberystwyth:
Y peth gorau am astudio yn Aberystwyth?
"Y gymuned Gymraeg - falla' bod hyn yn swnio'n cheesy. Mae o'n gyfle i gymdeithasu yn Gymraeg ac mae 'na dafarndai Cymraeg a siopau Cymraeg. Mi fedrwch chi fyw eich bywyd yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg yma."
Y peth gorau i'w wneud am ddim?
"Mynd i lan y môr. Does dim byd gwell ar ddiwrnod braf na neidio oddi ar y jetty neu eistedd ar y tywod a sbio ar yr olygfa fendigedig."
Uchafbwyntiau Wythnos y Glas?
"Crawl Teulu. Bydd myfyriwr y flwyddyn gynta yn mynd allan yng nghwmni dad a mam, sef myfyrywr o'r ail flwyddyn a taid a nain (myfyrwyr y drydedd flwyddyn). Mae'n gyfle gwych i ddod i nabod myfyrwyr yr ail a'r drydedd flwyddyn."
Prifysgol Glyndŵr
Y peth gorau am astudio yn Wrecsam?
"Y cwrs (Gwyddoniaeth Fforensig). Ro'n ni'n hooked arno fo pan welais i o pan ro'n i yn y chweched dosbarth."
Y peth gorau i'w wneud am ddim?
"Mynd i barc Bellevue ynghanol y dre efo ffrindiau. Lle braf ynghanol y dre."
Uchafbwyntiau Wythnos y Glas?
"Mae bar y 'Cent' yn le prysur iawn bob tro ac yn le da i gyfarfod ffrindiau. Mae o'n rhan o'r Cae Ras, cartre' clwb peldroed Wrecsam. Bar yr undeb ydi o felly mae o'n weddol rhad. Hefyd mae 'na nosweithiau da yn Central Station ... mae 'na lot o DJs o Lerpwl a Manceinion yn dod yno i gynnal nosweithiau."
Prifysgol Caerdydd
Y peth gorau am astudio yng Nghaerdydd?
"Yr amrywiaeth sydd yma o lefydd i fynd a phethau i'w gwneud. Mae lot o fyfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf yn tueddu i aros yn ardal Y Waun Ddyfal (Cathays) ynghanol y ddinas ond mae 'na lot o lefydd da yn y Bae yn un pen o'r ddinas ac yn y Rhath yn y pen arall. Mae'r awyrgylch yn y Mochyn Du ym Mhontcanna ar ddiwrnod gêm rygbi ryngwladol hefyd yn wych."
Y peth gorau i'w wneud am ddim?
"Er ei bod hi'n ddinas mae'n ddigon hawdd cerdded i bob man. Mae'n bosib mynd am drip i Barc y Rhath ac am dro hamddenol rownd y llyn neu eistedd ym Mharc Bute yng nghysgod y castell yn sgwrsio efo ffrindiau. Neu os di'r tywydd yn wael jyst mynd rownd i dŷ ffrindiau ac eistedd yn siarad tan oriau mân y bore."
Uchafbwyntiau Wythnos y Glas?
"Fel Cym-Gym 'da ni'n gadael i'r myfywryr setlo yn yr wythnos gyntaf. Mae 'na ddigon o weithgareddau ac adloniant at ddant pawb. Mae noson TNT yn Walkabout ar nos Fercher yn arbennig o dda a noson yng nghlwb nos Retro yn Mill Lane ar nos Iau."
Prifysgol Bangor
Y peth gorau am astudio ym Mangor?
"Mae'n clybiau cymdeithasol ni i gyd am ddim. Gallwch chi drio popeth! Ymuno efo'r tîm hoci neu dîm peldroed UCMB. Mae 'na nifer o dafarnau yn agos at eu gilydd ym Mangor Uchaf sydd yn ei gwneud hi'n hawdd i gyfarfod ffrindiau. Wrth gwrs, mae'r Glôb wedi bod yn boblogaidd ers degawdau efo sawl cenhedlaeth o fyfyrwyr Cymraeg yma."
Y peth gorau i'w wneud am ddim?
"Mae mynd am dro ar hyd y pier yn boblogaidd iawn. Mae 'na olygfeydd gwych o'r Fenai. Hefyd, dydi cerdded dros Bont y Borth i Borthaethwy ddim yn rhy bell."
Uchafbwynt Wythnos y Glas?
"Mae'r crawl teulu yn dda. Ond rhaid i mi ddweud mai'r uchafbwynt ydi'r Eisteddfod Dafarn yn y clwb rygbi ar y nos Iau. Mae 'na lawer o gystadlaethau dwl a chyfle gwych i bobl ddod i nabod ei gilydd."
Prifysgol Abertawe
Y peth gorau am astudio yn Abertawe?
"Lan y môr. Mae hi'n fendigedig yma"
Y peth gorau i'w wneud am ddim?
"Mynd am dro i'r Mwmbwls. Mae hi'n braf iawn cerdded ar hyd y prom a gweld y golygfeydd bendigedig o fae Abertawe. Be well na gwynt y môr yn enwedig ar ôl noson fawr?"
Uchafbwyntiau wythnos y glas?
"Mae'n dibynnu be sy'n apelio. Mae lot yn mynd i yfed yn y tafarnau ar Wind Street. Os ydych chi ishio dawnsio yna Sin City ydi'r clwb i fynd iddo. Fel arall mae 'na weithgareddau mwy diwylliannol fel open mike yn yr Undeb."
Prifysgol Drindod Dewi Sant
Y peth gorau am astudio yng Nghaerfyrddin?
"Mae'r campws mor fach - chi'n dod i nabod pawb. Mae'r atmosphere mor grêt yma. Dyna pam dwi'n caru'r lle."
Y peth gorau i'w wneud am ddim?
"Be am lenwi'r car a mynd i draeth Llansteffan? Mae'n le hyfryd a dim ond 10 munud o Gaerfyrddin. Mae'r castell yno hefyd yn werth i'w weld er dyw llawer o bobl ddim yn gwybod amdano."
Uchafbwyntiau wythnos y glas?
"Mae pawb mas ar nos Fercher, wythnos y glas ai peidio. Mae bar yr undeb wastad yn brysur ac mae 'na nosweithia' cofiadwy i'w cael yn y dre yn Spreadeagles ac yng nghlwb nos Metros."
Mae BBC Cymru Fyw yn dymuno'n dda i bawb sy'n dechrau yn y coleg yr wythnos hon. Mwynhewch Wythnos y Glas, ond cofiwch - pwyll pia' hi!