Plaid Cymru yn galw am wybodaeth am ardaloedd menter

  • Cyhoeddwyd
Peirianneg
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r sectorau peirianneg ac ynni yn rhai o flaenoriaethau'r llywodraeth yn yr ardaloedd menter

Mae ymchwiliad wedi dechrau, yn dilyn honiad bod gweinidogion y llywodraeth yn celu'r gwirionedd ynglŷn â pherfformiad ardaloedd menter yng Nghymru.

Mae dros 5,000 o swyddi wedi eu creu neu eu diogelu mewn dwy flynedd, ond dywed Plaid Cymru fod gan y cyhoedd hawl i wybod mwy am berfformiad yr ardaloedd.

O ganlyniad i'r gwyn mae'r Comisiynydd Gwybodaeth yn ymchwilio i'r ffrae.

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru eu bod yn "ymwybodol" o'r sefyllfa a byddant yn ymateb i gwestiynau gan y Comisiynydd Gwybodaeth.

5,142 o swyddi

Gwnaed y gwyn gan Blaid Cymru, ar ôl iddyn nhw holi faint o swyddi sydd wedi eu creu gan saith o "ardaloedd menter" newydd yng Nghymru.

Fe gafodd yr ardaloedd menter eu lansio yn 2012 gyda'r bwriad o roi hwb i'r economi. Y saith ardal yw:

  • Canol Caerdydd: ardal fusnes newydd yn agos i'r orsaf fysiau ac ar hyd Afon Taf.
  • Ynys Môn: yr ynys gyfan, yn canolbwyntio ar y sectorau ynni ac amgylchedd.
  • Glannau Dyfrdwy: peirianneg a chynhyrchu ar dros 2,000 hectar yn Sir y Fflint.
  • Sain Tathan - Maes Awyr Caerdydd: diwydiant aerofod ac amddiffyn ym Mro Morgannwg.
  • Glyn Ebwy: cynhyrchu, gan gynnwys y diwydiant ceir ar 4 safle a 40 hectar o dir.
  • Eryri: technoleg carbon isel yn Nhrawsfynydd a systemau awyren di-beilot yn Llanbedr.
  • Sir Benfro: y sector ynni

Yn ôl ystadegau'r llywodraeth fe wnaeth yr ardaloedd menter ddiogelu 5,142 o swyddi rhwng Ebrill 2012 a Mawrth 2014.

Ond dyw ystadegau heb gael eu rhyddhau am yr ardaloedd unigol.

Fe wnaeth Plaid Cymru gais dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth am y manylion yn gynharach eleni.

'Cwestiynau anodd'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi ac AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth: "Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn hapus o fod yn agored pryd mae hynny yn gyfleus, ond pan mae yna gwestiynau anodd maen nhw'n dawel iawn, ac yn gwrthod rhyddhau gwybodaeth."

Dywedodd fod Plaid Cymru yn cefnogi'r ardaloedd menter, ond fod gan bobl yr hawl i wybod mwy am eu llwyddiant.

"Mae creu swyddi a denu buddsoddiad o'r pwysigrwydd mwyaf wrth benderfynu a yw ardaloedd menter yn llwyddiant neu beidio.

"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ailfeddwl eu penderfyniad i beidio rhyddhau'r wybodaeth."

Dywedodd llefarydd o swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth eu bod wedi derbyn cwyn ac yn ymchwilio cyn penderfynu sut i weithredu.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol o'r ymchwiliad, ac yn bwriadu "ymateb i ymholiad y Comisiynydd Gwybodaeth".

'Dim digon manwl'

Yn ymateb, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies bod y targedau sydd wedi eu gosod i'r ardaloedd menter yn agored i gael eu newid, a'u bod yn "ddiystyr".

"Does dim esboniad pam nad oes targedau wedi eu gosod i ardaloedd menter unigol. Dan y mesuryddion presennol, gall Lywodraeth Cymru ddibynnu ar berfformiad da gan un ardal i gyrraedd y targedau cenedlaethol ac nid oes modd i Aelodau archwilio perfformiad ardaloedd unigol yn eu rhanbarthau," meddai.

Ychwanegodd ei fod wedi gwneud sawl cais am wybodaeth am yr ardaloedd gan y Llywodraeth, ond eu bod wedi eu gwrthod.

"Mae'n annerbyniol bod Aelodau Cynulliad yn gorfod dibynnu ar y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ddod o hyd i wybodaeth sylfaenol, ac mae'n dangos yr angen am ddiwygio o weithdrefnau'r Cynulliad."