Dyfodol mwy gobeithiol i'r Gyfnewidfa Lo?
- Cyhoeddwyd

Mae ymgyrch i ddod o hyd i brynwr ar gyfer y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd wedi denu cefnogaeth sylweddol, yn ôl yr aelod seneddol lleol.
Fe gafodd y gyfnewidfa - sy'n cael ei ystyried yn un o adeiladau hanesyddol mwya' nodedig Caerdydd - ei rhoi yn nwylo'r derbynwyr bythefnos yn ôl.
Cafodd y Gyfnewidfa Lo ei hadeiladu rhwng 1883 a 1886, yn ganolbwynt i'r diwydiant glo yn ne Cymru, ond mae wedi bod ynghau ers sawl blwyddyn bellach.
Un o'r rhai sy'n arwain yr ymgyrch i achub yr adeilad hanesyddol yw Stephen Doughty, Aelod Seneddol De Caerdydd a Phenarth, sy'n gobeithio dod o hyd i ateb "creadigol" i'r adeilad.
Treftadaeth Caerdydd
Yn y gorffennol, roedd pris y glo fyddai'n cael ei allforio i bedwar ban byd yn cael ei benderfynu yn y gyfnewidfa, ac yno hefyd yn 1901 cafodd y siec gynta' am filiwn o bunnau ei lofnodi.
Yn ôl yr hanesydd a'r darlledwr Phil Carradice: "Mae'n adeilad eiconig yn hanes Cymru ac yn hanes y byd - yr un mor bwysig ac un o gestyll enwog Cymru mewn ffordd.
"Ar un adeg roedd 'na rhwng 8,000 - 10,000 yn dod i'r adeilad yma bob diwrnod, dyma oedd canolbwynt economi'r diwydiant glo ar draws y byd."
Mae'r AS Stephen Doughty yn dweud bod yr adeilad yn rhan bwysig o hanes Cymru, a'i fod yn bwysig ei achub.
"Fe fydd hi'n broses anodd ond dwi'n hyderus drwy weithio gyda'r cyngor a'r bobl sydd â diddordeb yn yr adeilad y gallwn ni ddod o hyd i ateb creadigol cyn hir," meddai.
"Mae'r Gyfnewidfa Lo yn rhan allweddol o dreftadaeth Caerdydd.
"Yn amlwg bydd angen swm sylweddol o arian ac ymdrech i'w achub. A dyna pam y 'nes i lansio'r ymgyrch er mwyn gweld a oedd yna bobl fyddai'n gallu dod ynghyd i geisio helpu gyda'r broses."
Ychwanegodd: "Fe fydd hi'n broses anodd ond dwi'n hyderus drwy weithio gyda'r cyngor a'r bobl sydd â diddordeb yn yr adeilad y gallwn ni ddod o hyd i ateb creadigol cyn hir."
'Angen buddsoddiad sylweddol'
Erbyn hyn y Goron sydd yn berchen y safle - ond mae rhai yn dweud fod angen gweud gwaith cynnal a chadw ar frys.
Yn ôl y peiriannydd cadwraeth, Jon Avent, mae'r adeilad wedi bod ar glo ers blwyddyn ac wedi bod yn dirywio ers tro.
"Mae angen gwaith cynnal a chadw nawr tra bod grwpiau yn dod ynghyd i ystyried strategaeth tymor hir ar gyfer y Gyfnewidfa Lo," meddai.
Mae Cyngor Caerdydd yn dweud nad oes ganddo'r awdurdod cyfreithiol i wneud gwaith cynnal a chadw ar yr adeilad, gan ddweud bod unrhyw waith hyd yma wedi digwydd er "diogelwch y cyhoedd".
Dywedodd llefarydd: "Yn anffodus, realiti'r sefyllfa yw bod gwaith cynnal a chadw ar yr adeilad yn fuddsoddiad sylweddol. Y gred yw y bydda hi'n costio oddeutu £5m i wneud y safle'n ddiogel cyn bod gwaith adfer yn bosib."
Ychwanegodd y llefarydd fod y cyngor yn cydnabod arwyddocâd y Gyfnewidfa Lo ac eu bod yn cynnal trafodaethau gyda'r corff cadwraeth CADW yn y gobaith y gall grŵp prosiect gael ei sefydlu i ystyried dyfodol yr adeilad.