Caer 2-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Ar ôl bod ar y blaen am y rhan fwyaf o'r gem fe ddaeth Wrecsam adre o Gaer yn waglaw.
Ben Heneghan sgoriodd yn yr amser gafodd ei ganiatáu am anafiadau i sicrhau'r tri phwynt i'r tîm cartref.
Aeth Wrecsam ar y blaen diolch i Blaine Hudson.
Ac roedd yna gyfleoedd i Wes York a Connor Jennings i roi'r ymwelwyr ymhellach ar y blaen.
Craig Hobson ddaeth a Chaer yn gyfartal.