Cleifion hŷn i gael triniaeth gan feddygon dros y wê

  • Cyhoeddwyd
Meddyg
Disgrifiad o’r llun,
Mae Coleg y Ffisigwyr yn dweud ei fod yn mynd yn anoddach rhoi gofal wyneb yn wyneb

Gall gleifion hyn gael eu trin yn defnyddio cysylltiadau fideo dros y wê dan gynllun newydd, i'w harbed rhag gorfod teithio i ysbytai.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn un o bedair ardal yn y DU lle bydd y cynllun peilot yn cael ei brofi.

Bydd cleifion yn siarad gyda meddygon ysbyty ar gyfrifiaduron mewn meddygfeydd lleol.

Mae'r cynllun yn cael ei lansio gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr, ac os yw'n llwyddiannus gall gael ei ehangu i gartrefi cleifion.

'Gwella mynediad'

Drwy ddefnyddio cysylltiadau wê diogel mewn meddygfeydd neu ysbytai cymunedol, bydd cleifion yn gallu gweld a siarad hefo ymgynghorwyr mewn ysbytai mawrion.

Y bwriad yw arbed cleifion hŷn a chleifion sy'n byw mewn ardaloedd gwledig rhag teithio yn bell i ysbytai, a hefyd lleihau'r pwysau ar yr ambiwlansys sy'n eu cludo.

Bydd y cynlluniau yng ngogledd Cymru a'r ardaloedd peilot eraill yn cael eu monitro, gyda'r data yn cael ei rannu i geisio gwella gofal ar draws y DU.

Disgrifiad o’r llun,
Y gobaith yw y bydd y cynllun yn lleihau'r pwysau ar yr ambiwlansys sy'n cludo cleifion hyn i ysbytai

Dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dr Matt Makin: "Mae gofalu am henoed bregus yn rhan ganolog i'r prosiect ac ar ôl inni gael arferion da ar waith, bydd hyn yn cael ei ehangu i arbenigeddau iechyd eraill.

"Yn ogystal, mae gwell mynediad ar gyfer ardaloedd gwledig yn allweddol, gan fod mynediad wyneb wrth wyneb traddodiadol yn dod yn anoddach o hyd, ac yn wir mewn rhai ardaloedd nid yw bellach yn ymarferol nac yn ddymunol ar gyfer llawer o sefyllfaoedd mewn bywyd modern."

Ychwanegodd Dr Mark Temple, o'r Coleg Brenhinol: "Mae dewis y pedwar safle datblygu cyntaf ar gyfer Ysbytai'r Dyfodol yn gam cyffrous i wireddu gweledigaeth Ysbytai'r Dyfodol.

"Mae gwerthuso ffyrdd newydd o ddarparu gofal iechyd yn y safleoedd hyn yn bwysig i gleifion, gofalwyr a staff gofal iechyd, gan y bydd y canlyniadau'n cael eu rhannu'n eang i helpu i wella gofal cleifion yn y GIG."