Leanne Wood: Angen yr un pwerau a'r Alban i Gymru
- Cyhoeddwyd

Fe ddylid cyflwyno mesur newydd i ddatganoli mwy o bŵer i Lywodraeth Cymru ochr yn ochr â mesur datganoli i'r Alban, dywedodd Plaid Cymru ddydd Mawrth.
Cyhoeddodd y blaid gyfres o gynigion heddiw yn crynhoi eu hymateb i'r bleidlais Na yn refferendwm annibyniaeth yr Alban wythnos ddiwethaf.
Dywedodd arweinydd y blaid, Leanne Wood, na fyddai'n dderbyniol i Gymru gael triniaeth "eilradd" o gymharu â'r Alban.
Mae arweinwyr Llafur, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan eisoes wedi addo mwy o bwerau i Senedd yr Alban.
'Anfaddeuol ac annerbyniol'
Dywedodd Ms Wood: "Byddai'n anfaddeuol ac yn annerbyniol petai ASau yn pleidleisio dros bwerau sylweddol newydd i'r Alban ond yn pleidleisio hefyd ar fesur eilradd i Gymru.
"Os dysgodd ein taith ddatganoli unrhyw beth i ni, mae wedi dysgu fod newid tameidiog, graddol yn ein setliad yn arwain at ganlyniadau anfoddhaol i bobl Cymru."
Mae un Mesur Cymru eisoes gerbron y Senedd, ac mae'r blaid yn cynnig diwygio'r Mesur yna hefyd er mwyn dileu rhai cymalau, yn eu mysg yr angen i gynnal refferendwm cyn datganoli pwerau treth incwm a chyfyngiadau ar y gallu i amrywio'r dreth wedi hynny.
Mae'r Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd eisoes yn ffyddiog y bydd y cyfyngiadau yn cael eu dileu maes o law.
"Yn y cyfnod nesaf hwn, nid dim ond gor-ganoli'r wladwriaeth sydd yn haeddu sylw - mae angen trin anghydbwysedd grym hefyd," ychwanegodd Ms Wood.
"Golyga hyn fod yn rhaid trin Cymru fel cenedl a rhaid i'r pwerau sydd ganddi ei galluogi i weithredu fel cenedl."