Miliband yn amlinellu cynllun 10 mlynedd

Ed Miliband Image copyright PA
Image caption Ed Miliband yn siarad yng nghynhadledd Llafur ym Manceinion

Fe fyddai perchnogion tai gwerth mwy na £2 filiwn yn talu treth newydd er mwyn cynyddu gwariant ar iechyd, cyhoeddodd arweinydd y blaid Lafur Ed Miliband.

Yn ei araith i gynhadledd flynyddol y blaid - yr olaf cyn yr etholiad cyffredinol flwyddyn nesaf - bu teyrnged hefyd i brif weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Fe gyffyrddodd Mr Miliband ar nifer o faterion fydd yn cael effaith ar Gymru yn ei araith - araith oedd yn amlinellu ei gynllun ar gyfer y deng mlynedd nesaf os fydd yn cael ei ethol yn brif weinidog ym mis Mai 2015.

Un o'r prif bynciau dan sylw oedd ei newidiadau arfaethedig er mwyn ariannu'r Gwasanaeth Iechyd, a sut y byddai'n talu am hynny.

Er bod iechyd wedi ei ddatganoli, ac felly'n gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, un o'r ffyrdd y bydd Mr Miliband yn cynyddu'r gwariant ar iechyd yw cyflwyno treth ar eiddo dros £2 filiwn - 'mansion tax'.

Gan y byddai'r dreth honno hefyd yn cael ei thalu ar eiddo yng Nghymru, fe fyddai'r grant blynyddol i Gymru yn gorfod codi o dan dermau Fformiwla Barnett pe bai treth o'r fath yn cael ei chyflwyno.

Ynni gwyrdd

Yn ddiweddar mae Carwyn Jones wedi galw am ddatganoli pwerau dros ynni gwyrdd gan ddweud y gallai Cymru wneud mwy o hyrwyddo'r diwydiant gyda phwerau o'r fath.

Ond dywedodd Mr Miliband ei fod am weld Prydain yn arwain y byd o safbwynt ynni gwyrdd, er nad oedd llawer o fanylion ganddo sut y byddai'n gwneud hynny.

Soniodd Mr Miliband hefyd am ddatganoli, gan son am y gwersi a ddysgodd yn ystod ymgyrch refferendwm annibyniaeth yr Alban.

Dywedodd: "Mae'n rhaid i ni gael confensiwn cyfansoddiadol i drafod dyfodol y DU.

"Ni ddylai diwygio'r DU gael ei wneud o Whitehall - rhaid i bawb fod yn rhan o hynny. Lloegr, yr Alban, Cymru a phob rhan o'r DU... rhaid i bawb chwarae rhan yn y diwygio yma.

"Nid yn unig yr ydym yn 'Better Together', ond rydym yn 'Greater Together'. Fel y gwnes i gyfarfod gyda phobl oedd yn falch o fod yn Albanwyr ac yn Brydeinwyr, wrth gwrs mae yna bobl sy'n falch o fod yn Gymry ac yn Brydeinwyr - neb yn fwy na phrif weinidog ardderchog Cymru, Carwyn Jones - a gallwn hefyd ymfalchïo o fod yn Saeson ac yn Brydeinwyr."

Yn gynharach yn y gynhadledd galwodd Carwyn Jones am hunanlywodraeth i bob gwlad o fewn y Deyrnas Unedig, gan ddweud y dylai Cymru gael cynnig yr un pwerau a'r rhai sy'n cael eu cynnig i'r Alban.

Dywedodd Mr Miliband hefyd fod y penderfyniad o roi'r bleidlais i bobl iau yn refferendwm yr Alban wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac fe addawodd Mr Miliband y bydd yn ymestyn y bleidlais i bobl 16 ac 17 oed mewn etholiadau cyffredinol ar draws y DU os fydd yn cael ei ethol yn 2015.

Byddai hynny wrth gwrs yn weithredol i bobl ifanc yng Nghymru yn ogystal.

Straeon perthnasol