Gwasanaeth ambiwlans: ffigyrau ymateb

  • Cyhoeddwyd
ambiwlans
Disgrifiad o’r llun,
Gan amla ers dwy flynedd maen nhw wedi methu'r targedau

Mae ffigyrau diweddara' perfformiad Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cael eu rhyddhau ddydd Mercher.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf gan amlaf maen nhw wedi methu â chyrraedd targedau ymateb Llywodraeth Cymru.

Mae'r gwasanaeth wedi dweud eu bod yn ymateb i'r broblem. Ym mis Mehefin mynnodd Gweinidog Iechyd Cymru Mark Drakeford y byddai'r sefyllfa yn gwella o fewn tri mis.

Yn ddiweddar, roedd adroddiad bod ambiwlansys yn ciwio y tu allan i ysbytai ac mae pryder wedi ei fynegi am ofal a diogelwch cleifon.

Bron chwech awr

Yr wythnos ddiwetha' bu farw gwraig 73 oed pan oedd yn aros mewn ambiwlans y tu allan i Ysbyty Treforys ger Abertawe.

Ynghynt y mis hwn fe alwodd crwner am newidiadau cyflym ar ôl marwolaeth dyn oedrannus yn Wrecsam oedd wedi aros am bron chwech awr am ambiwlans.

Eisoes mae'r gwrthbleidiau wedi dweud bod methu'r targedau yn "sgandal genedlaethol."

Maen nhw wedi honni bod rhai aelodau staff yn teimlo'n rhwystredig ac nad ydyn nhw'n cael eu gwerthfawrogi.

Yn ôl penaethiaid, mae dwsinau o aelodau staff newydd wedi cael eu recriwtio ac mae disgwyl i ragor gael eu penodi.

Tair blynedd

Ond mae BBC Cymru yn deall bod angen aros am dair blynedd cyn bod y gwasanaeth yn derbyn yr holl adnoddau angenrheidiol.

Mae'r gwasanaeth wedi cyflwyno mesurau i leihau'r baich ar staff a'r cerbydau presennol.

Cafodd tacsis eu defnyddio i drosglwyddo 40 o gleifion i'r ysbyty ers mis Awst ac mae ambiwlansys preifat wedi eu defnyddio am y tro cyntaf ar benwythnosau yn y de-ddwyrain.

Rhaid i staff gymryd hoe yn yr ysbyty neu'r orsaf ambiwlans agosaf yn lle dychwelyd i'w canolfannau gwreiddiol.