Dwy o Nigeria yn rhan o ddefod ac yn ofni marw
- Cyhoeddwyd

Mae Llys y Goron Caerdydd wedi clywed bod dwy fenyw o Nigeria, gafodd eu masnachu i bwrpas rhyw, wedi gorfod bod yn rhan o ddefod dewiniaeth ac yn ofni y bydden nhw'n marw.
Dywedodd y ddwy, nad oes modd eu henwi am resymau cyfreithiol, eu bod yn gorfod yfed dŵr brwnt a bwyta neidr neu falwoden.
Clywodd y llys eu bod yn gorfod gweithio mewn hwrdai i ad-dalu £50,000 i'r diffynnydd Lizzy Idahosa am ddogfennau teithio a rhai ffug.
Mae Ms Idahosa, 24 oed, yn gwadu pum cyhuddiad, gan gynnwys masnachu i bwrpas rhyw a symud eiddo troseddol.
Mae ei phartner, Jackson Omoruyi, 41 oed, yn gwadu tri chyhuddiad o annog y menywod i fod yn buteiniaid a throsglwyddo eiddo troseddol.
Yn wallgof
Clywodd y rheithgor fod y ddwy o Nigeria oherwydd y ddefod swyngyfareddol yn ofni y bydden nhw'n mynd yn ddiffrwyth, yn sâl iawn ac yn wallgof.
Dywedodd un ohonyn nhw ei bod wedi cael cynnig mynd i Brydain lle oedd yn credu bod ei thad yn byw.
Cwrddodd ag un o'r diffynyddion yn Llundain, meddai, ac aeth i adeilad yn King's Cross lle oedd llawer o fenywod yn eu dillad isa.
Aeth Ms Idahosa â hi, meddai, i fflat yn Ilford lle cafodd ryw â dyn roddodd arian iddi.
Clywodd y llys ei bod hi yn aml yn cael rhyw â hyd at wyth o ddynion y dydd a'i bod wedi gweithio mewn puteindai yn Croydon, Stevenage, Brighton, Abertawe a Chaerdydd.
Cosb
Honnodd y gallai fod wedi gadael puteindy ar unrhyw adeg ond ei bod yn ofni cosb yn sgil y ddefod swyngyfareddol.
Dywedodd yr ail fenyw o Nigeria bod menyw wedi gofyn iddi a hoffai weithio mewn siop yn Llundain.
Dywedodd yr elynydd Caroline Rees ei bod hi wedi cael gorchymyn i ddweud wrth swyddogion rheoli'r ffin yn Heathrow ei bod hi'n lesbiad ac yn ffoi o Nigeria.
Ar ôl dianc o adeilad lle oedd mewnfudwyr yn cael eu cadw cysylltodd hi â Ms Idahosa ddywedodd fod arni hi ddyled o £50,000.
Cafodd y ddau ddiffynnydd eu harestio yn Ebrill 2014 yn Llundain lle daeth yr heddlu o hyd i ffonau oedd yn cynnwys negeseuon testun oedd yn cyfateb i fanylion banc.
Mae'r achos yn parhau.