Cwpan Capital One: Canlyniadau nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd
Gôl gyntaf AbertaweFfynhonnell y llun, Reuters

Yng nghwpan Capital One nos Fawrth, roedd 'na fuddugoliaeth i Abertawe ar y Liberty wrth iddyn nhw guro Everton 3-0.

Ond mae taith Caerdydd yn y gystadleuaeth ar ben wrth iddyn nhw golli adref yn erbyn Bournemouth.

Fe drechodd Bournemouth yr Adar Gleision 3-0.

Ar y Liberty, fe sgoriodd yr Elyrch wedi i Nathan Dyer fanteisio ar rediad gwych Jefferson Montero ar yr asgell chwith.

Gylfi Sigurdsson sgoriodd ail gôl Abertawe, a daeth y drydedd ym munudau ola'r gêm gan yr eilydd, Marvin Emnes.

Siom i Gaerdydd

Er mai'r un oedd y sgôr yn Stadiwm Dinas Caerdydd, doedd yr Adar Gleision ddim yn canu.

Roedd hi'n noson ddigalon i Gaerdydd, wrth iddyn nhw adael y bencampwriaeth yn y drydedd rownd.

Fe sgoriodd Dan Gosling ddwy gôl i Bournemouth, a Charlie Daniels gafodd y drydedd.

Does gan Gaerdydd ddim rheolwr wedi ymadawiad Ole Gunnar Solskjær, ac yn ôl un o'r rhai sy'n gofalu am y clwb dros dro, Scott Young, roedd neithiwr yn fwy na siomedig.

"Dyw e jysd ddim digon da i Glwb Pêl-droed Caerdydd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency