Casnewydd 1-2 Swindon
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth goliau gan Jon Obika a Andy Williams sicrhau buddugoliaeth i Swindon yn erbyn Casnewydd yn nhrydedd rownd Tlws y Gynghrair.
Aeth Swindon ar y blaen toc cyn hanner amser gyda pheniad gan Obika.
Yna, fe sgoriodd Williams wedi 62 munud i ddyblu mantais yr ymwelwyr.
Yan Klukowski sgoriodd unig gôl Casnewydd.